Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y/C RONICL. Khif 633.] IONAWR, 1896. [Cyf. LIV NODIADAU ENWADOL. Pwnc y dydd, y tren, y gwaith, y siop, y cartref, y coleg, ie, a'r Ysgol Sul yw y bel droed. Byddai yn dda i'r oes hon ddarllen geiriau yr Apostol Paul at Timotheus; fel liyn y maent yn y Cyfieitliiad Diwygiedig, " Canys am ychydig y mae ymarferiad corphorol yn fuddiol.;' Nid oes dim yn talu yn ein hardaloedd poblog yn debyg i lenyddiaeth y bel droed. Y newydduron a ysgubir nos Sadwrn yw y rhai a adroddant ganlyniadau'r yra- drechíeuydd. Son a wnewch am íl Cymry Fydd !;; Ni í'ydd dim wedi ei adael o;n bechgyn ond coesau a thraed! Treulia'n dynion ieuainc oriau bwy gilydd i chwareu, ac yna eisteddant i lawr am oriau i siarad am y bel droed a champwyr y bel droed. Cofiwch nad wyf yn elyn i chwareu. Dywedodd Mr. Owen M. Edwards, M.A., nad oedd wedi chwareu digon; ac mai dyna ydoedd y rheswm fod ei iechyd mor dlawd yn aml. Rhaid i ddyn sydd yn byw llawer yn y ty fynu ymarferiad yn yr awyr agored. Dyna i'y mhrofiad personol ar ol ugain mlynedd o fywyd myfyriwr. Pe cawswn ddigon o dir i wneud gardd, boddlon- aswn ar yr ymarferiad a gawswn yno. Ond fel y mae gwaetha;r modd, gwasga;r môr fi un ochr, a'r mynydd ochr arall, a land- lordiaid creulonach na'r ddau yr ochr arall, fel nad oes genyf ddim i;w wneud ond myn;d i'r ffordd fawr. Dau ddewis sydd genyf ar houo : rhaid i mi fynd i'r gorllewin neu i'r dwyrain. Ond drwy help dau-olwyn (bicycle) gallaf heb ludded gyrhaedd golygfeuydd newj^ddion, a mwynhau yr ymarferiad corphorol anghenrheidiol yn ddi-faich. Eto ni chymeraswn y byd am redeg am y gamp mewn ymdrechfa ceffylau haiarn, am y buasai hyny y tu allan i gyleh ac amcan fy mywyd. Cyn y gallaswn redeg am y gamp buasai;n rhaid i mi roi mwy o;m hamser i'r ceffyl nas gallwn ei hebgor, a gwneud fy ngwaith. Yr wyf yn ei farchogaeth yn awr er mwyn gwneud îy ngwaith yn wrellj