Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CÜONICL. Ehif 632.] RHAÜFYR, 1895. [Cyf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Testyn dyddorol iawn i'r Undeb Cyunlleidfaol nesaf fyddai, " Pahara y mae cynifer o bregethwyr y Wesleyaid yn gadael eu henwad, ac yn troi at yr Anibynwyr ? " Beth fyddai i'r pwyllgor nodi brawd i ddarllen papur arno ? Nid ydym yn fyr o ddynion cymhwys i wneud hyny. Hys- bysir ni yn awr mewn newydduron dyddiol íbd y Parch. Frank Ballard, un o'r dynion dysgedicaf yn mysg y Wesleyaid, ar adael yr enwad cryf a pharchus hwnw, i gymeryd gofal yr eglwys Anibynol yn Nghapel WyclitY, Hull, lle y bu'r Dr. John Hunter yn gweinidogaethu ar un adeg. Dichon mai y mynych symud sydd yn mysg gweinidogion y Wesleyaid, a barodd i Mr. Ballard feddwl am newid ei enwad, oblegid gwnaeth gais yn Nghynhadiedd y Wesleyaid a gynhaliwyd yn Plymouth, am gael aros yn Brighton am flwyddyn arall. Yr oedd eisoes wedi treulio pedair blynedd yn ei le, ac yr oedd estyn y tymhor i'r bumed fiwyddyn gymaint o dreth ar reolau anystwyth, fel mai mwyafrif bychan a gaed dros ganiatau y cais. Hwyrach fod gan Mr. Ballard resymau ychwan- egol dros y cam a gymer, a by^ddai yn ddyddorol pe ceid ei resymau ef yn nghyda rhesymau eraill sydd wedi dod atom yn ddiweddar. Byddai y ddau enwad yn sicr o fod ar eu mantais o dalu sylw i'r mater hwn. # # * Collodd ein henwad ddyn da yn marwolaeth y Parch. Stephen Davies, Peniel, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd o olwg urddasol ac yn edrych yn ddyn cryf, eto bu farw pan yn 63 oed. Cymerodd ran flaenllaw yn nadl fawr ei enwad, a dangosodd y pryd hwaw ei fod yn Anibynwr o'r Anibynwyr, ac na fynai i neb ymyraeth a hawliau yr eglwysi. Ni chefnogodd yr Undeb, ac ni welwyd ef lawer o weithiau mewn Cyman- faoedd o'r tu allan i'w gylch ei hun, eto meddai ddylanwad da, a bu yn ddefnyddiol iawn gartref. Ac nid peth b}"chan oedd iddo allu llenwi y cylch hwnw mor gymeradwy am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Dechreuodd bregethu yn Llwynyrhwrdd a derbyniodd ei addysg yn Ngholeg Caerfyrddin. Neillduwyd ef yn weinidog i eglwys Soar, Aberdar yn 1858, ac yn 1866 symudodd i Peniel. Mae un arall o hen gyfeillion y Cronicl, a'i hen olygwyr wedi marw, sef mam Mynyddog.