Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL Ehif 630.1 HYDREF, 1895. [Cyf. LIIL NODIADAU ENWADOL. Ffyna meddwdod yn Nghymru : ar gynydd y mae mabol- gampau yn myn'd, a chyn hir bydd y bel droed wedi lladd y cyrddau pregethu a gynhelid gynt ar y prif wyliau. Arfereoi ystyried fod moesoldeb yn uwch yn nghymydogaethau'r ehwar- elau—yn Arfon acyn Meirion—nac yn nglofeuydd Morganwg a Mynwy, ond yn sicr nid yw Festiniog fymryn ar y blaen i Grwtn Rhondda. Pe cydmarech hanes llys ynadol Pontypridd, a llys ynadol Blaenau Festiniog, ni fyddai genych dim dewis. Bu yr ynadon o unarddeg y bore hyd dri y prydnawn yn y lle olaf, un diwrnod, yn profi un ar hugain o achosion o feddwdod, ac afre- oleidd-dra. Dywedodd cadeirydd yr ynadon hefyd nad oedd o un dyben dirwyo'r dynion ieuainc, gan fod yn ymddangos mai eu harferiad oedd casglu yn eu mysg eu hunain i helpu talu'r dirwyon. Penderfynodd ynadon Festiniog na bydd iddynt rhagllaw ganiatau i neb a euog-fernir, ddewis talu dirwy yn hytrach na myn'd i garchar am ymosodiad, ond bydd iddynt anfon troseddwyr i garchar ar unwaith. Nid yw Festiniog ar ei phen ei hunan yn mysg ardaloedd poblog y Grogledd yn hanes troseddau. Pe chwilid cof-lyfrau llysoedd eraill yn Ngwynedd ceid llawer o ddalenau duon. Yr hyn sydd yn ddi- frifol yn y cyfaddefiad yw, mai nid ardaloedd cymysg o G-ymry a Seison yw y rhai hyn, ond ardaloedd hollol Grymreig. Pan y byddwn yn son am afreoleidd-dra, meddwdod a gwylltineb bywyd gweithfaol y De, byddwn yn gosod y bai wrth ddrws y Seison a'r G-wyddelod sydd yn heigio yn y lleoedd hyny. Ond Cymry sydd yn Festiniog, yn andwyo eu hunain, ac yn sathru ein henw da fel cenedl o dan draed. Nis gallwn mwyach wneud bwch diangol o blant Mari na phlant Hengist. Mae nifer fawr o Gymry ieuainc yn codi, sydd lawn can ised eu harferion ag ysgubion ein cymydogion. Rhaid i ni wynebu y ffaith yn fuan neu yn hwyr. Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain, ac i Dduw, pa beth a wnawn. Penderfynodd y Parch. Henrv Jones, Traws-