Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 629.1 MEDI, 1893. [Cyf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Yr " Eisteddfod ganu" fydd enw Eisteddfod Genedlaethol 1895. Y canu oedd yn enill clod y beirniaid ; y canu oedd yn tynu'r torfeydd yn nghyd; a'r canu oedd " yn niyn'd a hi" o'r dechreu i'r diwedd. Arwydd o ddiffyg yw i genedl feddwi ar un peth. Mae i berson unigol ddal at un nod, a mynu rhagori mewn un peth yn arwydd o ddoethineb, ond mae i genedl fyw i gyweirio ei llais ac i glustfeinio ar seiniau, yn sicr o'i harwain cyn hir i gael ei dodi yn yr un dosbarth a'r creadur anhydrin hwnw, sydd yn hynod ar gyfrif ei fref a hyd ei glust. Nid yw llaw y Cymro wedi cael cymaint o'i sylw ag a gafodd ei lais. Pell enbyd ydym, meddai Herkomei\, o gyraedd y radd gyntaf fel arlunwyr, a gwyr efe am Gymru yn weddol dda, oblegid un o ferched Gwalia yw ei wraig. Mae gan bob cwmwd yn Nghymru ei ysgol gân, lle y rhygnir yr un darnau nes y bo pawb wedi laru arnynt. Dylai pob cwmwd hefyd gael ysgol i gerfio, ac i ddysgu gweithio mewn haiarn a phres. Gallaf siarad oddiar auaf o brawf o ysgol i ddysgu cerfìo ar goed, a gwelais ddigon i gredu y gall ein bechgyn wneud enw iddynt eu hunain fel cerfwyr, dim ond iddynt gael manteision a digon o ysbryd dyfalbarhad. Buan y delo'r Eisteddfod i dalu mwy o sylw i hyn. Nid yw eto wedi gwnend ond ychydig. Dywedodd " Crafnant" wrthyf mai pan oedd ef'e yn ysgrifenydd Eistedd- fod yn Nyffryn Conwy y cychwynwyd rhoddi gwobr am ddar- luniau. Da genyf weled i Mr. Thomas Williains, ysgrifenydd ffyddlon ein heglwys yn Nhrefriw, fyn'd a'r wobr am wlanen Gymreig. Y mae eisieu cefnogi mwy ar ein llaw-weithfeydd Cymreig, a phwy ddylai wneud hyny os na ddylai'r Eisteddfod. Nid yn unig aeth Anibynwr a'r wobr am y wlanen oreu, a Mr. John Price, Rhymni, ran o'r brif wobr gorawl, aeth Anibynwr hefyd a'r gadair ! Cwynodd Cadvan yn Llanelli fod swyddog- ion yr orsedd yn perthyn i'r Anibynwyr i gyd. Nis gwn a