Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

224 Y CBONICL. HOLIADAU I'R ANNUWTOL. Gaf fi ofyn it' yr Annuw Yn dy loddest a'th fwynhad, Ar dy daith trwy fyd o amser I'r tragwyddol ei barhad,— Pam y chwerddi ymaith weddi Ddwys offrymwyd ar dy ran ?— Cofia ddyn daw gofyn arnat Am attebiad yn y man. Pam y treuli'th amser gorau Yn oferedd gwag y byd ? Pam y porthi'r tan dinystriol Fwyty'th gysur oll i gyd ? Yn rhyferthwy'r farn ofnadwy Pan y byddi'n llesg a gwan, Bydd y Barnwr it' yn gofyn Am atebiad yn y man. Pam yr ä'i mor hyf dy rodiad Ar áy hynt tros ddeddfau Duw— A osododd Ef i'th arwain, Ac i'th ddysgu'r modd i fyw? Pam ddirmygi yn dy ymyl Lef trueiniaid tlawd a gwan ? Cofìa, ddyn, daw gofyn arnat Am atebiad yn y man. Yn dy ymyl gwel amddifad, Gweddw dlawd yn wael ei gwedd ; Ffon ei chysur a'i chynhaliaeth Eoed i orwedd yn y bedd, — Pam mae'th ddrws a'th law yn nghauad I anghenion eiddil gwan? Cofia, ddyn, daw gofyn arnat Am attebiad yn y man. Amser roddwyd iti foli Duw am drefnu ffordd it' fyw ; Tithau'th amser gwerthfawr dreuli I wawdio'r ffordd yn ngwyneb Duw ; Fflint. Arnat gwlawiwyd trugareddau, î^Dirif freintiau ddaeth i'th ran : Cofia, ddyn, daw gofyn arnat Am ei ff rwythau yn y man. Nid oes Duw mewn dim, dywedi, Yn y byd nac yn y bedd, Na byd arall mwy i'w ddysgwyl, Nid oes damnio chwaith na hedd ; Gwrando lef yn dod o'th galon, Ac yn nofio tua'i glan,— Ddywed wrthyt mewn awdurdod 'Doi i'w wyddfod yn y man. Ceir dy ddyddiau yn diflanu I'r gorphenol pell yn ol, Yno byddant oll yn fua'n,— Diwedd ddaw i'th yrfa ffol; Tua'u rhengoedd hwy'th wynebant Ger y Frawdle yn y man, A'r gweithredoedd a wnest ynddynt Dro'nt i ddamnio'th enaid gwan. Yna gwawd a wneir o honot Gan gythreuliaid hagraf lu, A dirdynir d'enaid beunydd Gan gnofeydd cydwybod ddu : Cymhelliadau a manteision A chynghorion mam a thad, Wlawiant arnat farnedigaeth Yn y dywell dlodaidd wlad. Paid, fy nghyfaill, a dirmygu Goruchwyliaeth Duw y Nef, Gad dy bechod, lladd dy chwantau, Tro dy wyneb atto Ef; 'R Hwn sy'n cynnyg iti beanydd Falm i wella'th farwol friw,— Cynyg coron aur a thelyn Ar ddeheulaw gorsedd Duw. J. Mobsis Ellis. —Rbaid i feistr dalu costau claddu gwas neu forwyn fyddo yn marw yn ei dy, os y byddo y cyfryw heb berthynasau. Samuel Hughes, Argraffydd, Llyfr-rwymydd, Sçc„ 43 a 45, High St., Bangor.