Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONIC L. Ehif 627.] GORPHENAF, 189S. [Ctf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Cefais freuddwyd. Gwelais holl gorau yr Anibynwyr o Gaerdydd i Gaergybi ac o Dy Ddewi i Lanandras wedi cwrdd yn Nghastell Aber- ystwyth. Yr oedd 'hogia lancia a 'hogia merched Môn yno. Daethai llanciau a llancesau'r Eryri a Lleyn ac Eifionydd yno'n llu. Yr oedd Anibynwyr dyffrynoedd y Gonwy a'r Glwyd yno yn nghyda thrigolion yr ymdrochleoedd gogleddol. Gwyr a merched ifinc Fflint; Morwynion glan Meirionydd a'r gweision hefyd. Deífroisai Maldwyn lonydd yn foreuach nag arfer y diwrnod hwnw, ac yr oedd ei phlant talentog yno. Yr oedd pellafoedd Penfro wedi dod o hyd nos i'r dref, a bid sicr yr oedd pob cilen o wlad Ceredigion wedi ei threthu i chwyddo cyfoeth mawl y Gymanfa Fawr. Ond, bobl anwyl! Pa fintai yw hon sydd yn duo'r ffurfafen ? Ah ! dyma filoedd Myrddin a Morganwg : dyma blant lluosog cadarnleoedd Anibynia, a phwy ond y nhw ! Gwelais lu wedi dod dros y Banau i helpu'r gan, a'r olaf o'r siroedd, ond nid y lleiaf ei sel oedd Mynwy hen. Ac yn ben ar y cynulliad ardderchog gwelais Anibynwyr Cymreig Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Llundain a rhanau eraill o Loegr yn llenwi eu hysgyfaint ag awyr iach yr hen wlad, ac yn canu fel y canodd plant Israel ar ol dod o'r caethiwed. Yr oedd Dr. Parry (?), Emlyn Jones, Lewis, Brynaman, Emlyn Evans, a llu eraill yno yn helpu eu gilydd i arwain y canu. Y tonau a'r emynau a ganent oeddynt donau ac emynau o'r Llyfr Newydd. Ac yr oedd yno ganu ! Priodai bass y Gogledd sopranó'r De, nes gyru ffrwd o fawl un- edig i ddeífro eco creigiau Plinlimon. Yr oedd yno offerynwyr o gymoedd y Rhondda, o lanau yr Aman, o greigiau Arfon a Meirion, o ddyffryn Maelor a dyffryn Towy, ac o fin mor y De, ac o fin mor y Gor- llewin, ac o fin mor y Gogledd. A dyna ganu ! Y fath dlysni, a'r fath nerth ! Un adeg yr oedd fel rhuad y dyfnder mawr pan wedi ei gorddi i'w waelodion, a phryd arall yr oedd fel can gyntaf cor y wig pan dýr gwawr y diwrnod cyntaf o wanwyn drös y wlad. Gallech feddwl mai mil o eosiaid oedd yn canu un fynud, a'r mynud nesaf gallech feddwl eich bod yn clywed y Niagara yn cwympo dros erchwyn Llyn Erie gan daranu yn mhob naid nes dychryn yr edrychwyr. Ofer i mi ddechreu enwi y gwyr enwog a welais yn y Gymanfa. Yr oedd rhai ar oriel