Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 626.1 MEHEFIN, 1893. [Ctf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Nid yw darllen pregethau erioed wedi bod yn boblogaidd yn Nghymru. Ar waethaf y ' papyr' y daeth Eynon ac Ossian i sylw a phoblogrwydd. Ac yn sicr nid darllen ei bregethau a barodd i Cynhafal godi mor uchel yn marn a ffafr y Methodis- tiaid. Y mae darllen pregethau, a darllen pregethau, fel y mae pregethu o'r frest a phregethu o'r frest. A.drodd pregeth fo wedi ei chodi i'r cof y bydd rhai wrth bregethu, ac yn sicr y mae rhai wrth ddarllen pregeth wedi gwneud hyny mor effeithiol nes peri i bawb feddwl nad oedd air ar bapyr ganddynt. Un o'r rhai fedrai wneud hyn oedd y diweddar Dr. Raleigh, ac er fod y diweddar Dr. Dale yn edrych yn gaeth ar ei leni, eto yr oedd rhyw fath o fynd a nerth yn ei ddarllen nes ydoedd yn gwneud i ddyn anghofio'r papur. Wrth gwrs y mae peryglon yn amgylchu'r ddau ddull o weinidogaethu. Perygl pregethu o'r frest ydyw iddo ddod o'r frest, ac nid o un man arall, nes peri i chwi feddwl nad oedd gan y pregethwr ddim ond megin a chorn gwddw. I bregethwyr ieuainc y mae'r perygl mwyaf oddi- wrth ddarllen pregethau. Rhaid i bregeth fod yn dda iawn, os ydych am ei darllen. Mae pregeth wael ond ei dweud yn dda yn fwy llwyddianus nag un sal wedi ei darllen. Wrth gyfan- soddi pregeth y bwriedir ei darllen, dylid cofio mai i gael ei phregethu y mae, ac nid i gael ei darllen. Dywedir fod anerch- iad Mr. Greenhough o gadair Undeb y Bedyddwyr yn eithriadol bleserus i'w gwrando am mai ei dyweud yr oedd ac nid ei darllen. Y peth sydd bwysig yw cael cenadwri oddiwrth yr Arglwydd, ac os ceir hono bydd yn sicr o gyrhaedd calon y gwrandawyr. Gwlad sydd yn teimlo'n reddfol groes i ddaillen pregethau yw Ysgotland fel Cymru. Yr oedd dwy hen wreigen yn dyfod o'r capel ar foreu Sul wedi bod yn gwrando pregethwr dieithr. Meddai un o'r ddwy, yr hon oedd yn ddall, wrth yr