Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R OJST I O L. Ehif 625.] MAI, 1893. [Ctf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Y misoedd hyn y mae llawer yn paratoi eu hadroddiadau blynyddol. Wrth edrych drwy restr yr aelodau, gwelwch aml i enw nas gallwch ei roi yn yr adroddiad. Nid yw y dyn yn aelod mwy. Ciliodd o'r cyfar- fod gweddi, ac o'r gyfeillach ; nid yw byth yn d'od i'r Ysgol Sul; hwyr- ach y daw i ambell oedfa nos Sul. Yr ydych wedi bod yn siarad ag ef, ac yn ei anog i fod yn ffyddlon, ond ni thyciodd eich anogaethau. Buoch am amser hir yn methu deall paham yr oedd y dyn yn graddol gilio, ond erbyn hyn deallwch ei fod yn mynychu'r tafarndai yn lladrad- aidd, ac fod y cwpan meddwol yn lladd ei nerth ysbrydol. Nid ar un- waith y mae dyn yn syrthio. Gwelsoch gei coed ar lan y môr, fe ddichon, yn edrych yn gryf a diysgog. Rhyw ddiwrnod fe ddaeth awel fechan heibio, a chwythodd y cei i lawr. Nid oedd eisieu gwynt cryf i w daílu; yr oedd awel yn ddigon. Paham y syrthiodd mor ddi- rybudd ? Mân ymlusgiaid dinystriol oedd wedi bwyta eu ffordd drwy galon y pileri coed, o'r golwg yn y dwr, fel nad oedd dim angen ystorm i daílu'r oruwch-adeilad. Felly y mae mân bechodau yn bwyta eu ffordd drwy gymeriadau dynion, yn ddystaw ac o'r golwg, fel nad oes dim eisieu i satan stormio arnynt; dim ond cael awel fach o demtasiwn,. a syrthiant i lawr yn bendramwnwgl. Dylai'r gwaith o barotoi adrodd- iad eglwysig fod yn foddion gras i ddyn, ie, a dylai darllen adroddiad eglwysig fod yn foddion gras i bob un o'r aelodau. Trist yw darllen enwau y rhai a syrthiasant i'r bedd yn ystod blwyddyn, ond mor ofn- adwy yw gwel'd enwau rhai a syrthiasant i bechodau marwol ac a ddi- arddelwyd o eglwys y Duw byw ! Nid oes dim a wna i'r ystyriol weddio yn ddyfalach a gwylio yn fwy effro rhag syrthio i brofedigaeth^ Gall llawer amheu y priodoldeb o gyhoeddi manylion cyfrifon arianol eglwys. Eto y mae i adroddiad ei wersi. ##*### Dynion cryfion, dynion a phwysau ynddynt oedd y ddau frawd^ Thomas, Cymer; a Davies, Abergele, sydd newydd gael eu galw adref. Yr oedd y blaenaf yn fwy cyhoeddus na'r olaf. Yn wir yr oedd efe un adeg yn un o'n pregethwyr mwyaf poblogaidd, ac yr oedd yn rhagor na