Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 624.] EBRILL, 1896. [Cyf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Darn da o oes dyn yw pum mlynedd ar hugain. Hyny fu'r Parcli. W. J. Richards yn PenwerD, Dowlais, medd y papurau. Ni feddyliasai neb hyny wrth edrych ar ei wyneb ieuanc, a sylwi ar ei ysbryd chwareus. Bto cymerodd efe ran flaenllaw yn materion cyhoeddus ei enwad yn ystod y tymor yna, ac yr oedd hyny yn golygu myned trwy frwydrau lawer. Os gallodd unrhyw ddyn fyn'd drwy frwydr dan ganu, W. J. Eichards oedd y dyn hwnw. Rhaid iddo ddiolch am y ffaith ei fod yn gallu diweddu cwarter canrif mor hoyw, i'w ysbryd byw, a'i natur dda. Grwyneba ar America. Treuliodd rai misoedd yno dro yn ol, ac ymddengys iddo hoffi'r wlad a'i phobl. Dywedodd un pregethwr o'r ' hen wlad' a aethai i'r America mewn gwlanen gartre' ar hin boeth, ' Nid y w gwres America a gwlanen yr hen wlad yn cytuno, gyfeillion/ a thynodd ei got i lawr yn y pwlpud. Nid pob dyn sy'n taro Amenca ychwaith, ond yn sicr y mae'r Parch. W. J. Richards a'r Talaethau yn taro eu gilydd i'r dim. Y mae yn ddarlithiwr ar gwestiynau poblogaidd, yn wleidyddwr effro, yn ddirwestwr aiddgar, ac yn bregethwr bywiog. Uwch- law y cwbl medd gydwybod onest a chymeriad pur. Nid dyn yw efe i droi cefn yn nydd y frwydr. Saif fel y dur o blaid ei egwyddorion, ac ni phlyga lin i Bâal mewn byd nac eglwye. Bydd yn chwith meddwl am Dowlais hebddo. Colled Dowlais fydd enill yr America. Aifî dymuniadau da cannoedd o galon- au cynhes gydag ef ' dros y don/ a dy wed adlais hiraeth yn aml ' Brysia yn ol.' 4f * * * 4f * Pa sawl un o'n heglwysi sy'n ddi-weinidog ? Golygwn wrth hyny yr eglwysi a fedrant fforddio cadw gweinidog. Edrych- wch ar Sir Aberteifi—yr un fwyaf anghysbell yn Nghymru— y mae yno oddeutu haner dwsin o eglwysi gweigion. Grwir nad