Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 623.1 MAWRTH, 189S. [Ctf. LIII. NODIÀDAU ENWADOL. Yn 1841, torwyd y Parcli. James Morison allan o Eglwys Ymneillduol Unedig, Kilmarnock, Ysgotland, am ei fod yn dal syniadau gwrth-(xalvinaidd ar ffydd, gwaith yr Ysbryd yn nhrefn Iachawdwriaeth, a helaethrwydd yr Iawn. Daliai efe mai ffydd oedd, i un gredu fod Crist wedi marw drosto; ty welltir yr Ysbryd ar bob cnawd, ac ymrysona a'r annychweledig, a thriga yn yr holl gredinwyr; credai hefyd fod yr Iawn yn iawn cyffredinol. Cyfarfu tad Mr. Morison, yr hwn oedd hefyd yn weinidog, a dau o weinidogion eraill yn Kilmarnock affurfiasant yr Undeb Evangylaidd. Chwyddodd nifer yr eglwysi hyn nes ydynt yn awr oddeutu cant mewn nifer. Nid ydynt yn wahanol iawn yn eu ffurf eglwys i'r Anibynwyr, ac oherwydd hyn ceisia rhai uno Anibynwyr Ysgotland a'r Undeb Evangylaidd. Nid oes dim hawddach nagieglwysi unrhyw enwad uno gyda'r Ani- bynwyr; ac eto nid oes dim mor anhawdd; yn wir y mae yn hollol anmhosibl os ceisir rhoi ffurf gorfforiaethol i'r undeb. Dim ond dechreu yn y pen iawn dilëir yr anhawsder. Os dech- reuir yn y pen chwith gwneir undeb hanerog swyddogol a marw. Os oes ar eglwysi Evangylaidd ac eglwysi Anibynol Ysgotland awydd ffurfio undeb, nid oes dim hawddach; ond os bydd i ychydig swyddogion feddwl y gallant wneud hyny drwy gwrdd mawr a phasio penderfyniadau, goreu po gyntaf iddynt roi'r ffidil yn tô. Gwelwn fod rhai o Anibynwyr blaenaf Ysgotland wedi gwrthdystio yn erbyn " undeb gwneud." Yn mysg y gwrthdystwyr y mae enw ein cydwladwr talentog y Parch. Eyuon Davies. Dysgodd efe ei Anibyniaeth yn ysgol S. R. a J. R., a serch ei fod y parotaf i gydweithio a phob enwad dros yr hyn sydd dda, medda farn rhy oleu i gymeradwyo unrhyw gynllun anymarferol a rhoi ei gefnogaeth i sham. Oes yr uno