Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R O ÜST I c Ehif 622.] CHWEFROR, 189S. [Cyf. LIII. NODIADAU ENWADOL. " Dyn yw David Thomas Stockwell " meddai Dr. Parker yn y benod hono ar The Homilist : Man and Booh sydd yn ei lyfr Ad Clerum. " Yn gorphorol ac yn feddyliol y mae yn ddyn" ychwanega y pregethwr hyawdl o'r City Temple. Wrth gyfeirio at garedigrwydd naturiol Dr. Thomas, dywed Dr. Parker, ei fod yn ffafriol iawn i'w frodyr Cymreig, a phan na byddai ambell un a ganmolid ganddo yn dod i fyny a desgrifiad Dr. Thomas o hono byddai golygydd caredig yr Homilist yn sicr o ddy weud fod y brawd yn angerddol yn Gymraeg ! Yr oedd yn dda i Gymro trwsgl gael help dyn fel Dr. Thomas flynyddoedd yn ol; erbyn hyn y mse yn wahanol: ni raid i fechgyn Cymru guddio eu penau yn mhwlpudau y Seison, ond pan oedd eisíau help gwelid gwerth dyn fel David Thomas. Drwy yr Homilist y gwnaeth efe ei waith mawr. Yno y dadleuodd dros Brifysgol i G-ymru nes i Aberystwyth droi yn ffaith, ac yno y tywalltodd gyfoeth ei feddwl mawr i gynorthwyo gweinidogion a phregoth- wyr y Deyrnas Gyfunol ac America. Eto bu farw y dyn da hwn, ac er na chlywyd ei lais er's blynyddoedd, bydd y byd yn dlotach o'i golli. Hen gyfaill J. R. ac S. R. oedd efe a hunodd y to hwnw i gyd erbyn hyn : eto ysgrifenodd Dr. Thomas iddo ei hun enw nad anghoíir mohono byth. Mab iddo yw'r Parch Urijah Thomas, Bristol, Cadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol. * * * Tarawodd angau fraw drwy fro Eryri hefyd y mis diweddaf. Torwyd i lawr ar ychydig iawn o rybudd, ddyn defnyddiol a gweinidog dylanwadol. Nid oedd y Parch. R. W. Griflâth, Bethel, yn cael ei restru yn mhlith meddylwyr y pulpud Anibynol, ond yn sicr yr oedd yn ddyn nodedig o gyflawn. Fel y dywedodd Mr Bryn Roberts, A.S., yn ei angladd, "nid yw