Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ORONICL. Ehif 621.1 IONÀWR, 1893. [Cn, LIII. NODIADAU ENWADOL. Colled fawr i newydduron Caernarvon, ac i'r wasg Gymreig fydd ymddiswyddiad Mr. Beriah Gwynfe Evans. Nid oes modd cael dyn mwy medrus : yr oedd yn llawn o'r ysbryd Cymreig : dangosodd y Genedl fwy o arwyddion bod i fyny a'r oes, ie, ac o fod o flaen ei hoes, yn amser Beriah nac yn amser un o'i golygN'ddon a'i blaenorasant. Paham yr ymddiswyddodd ? Thereby hangs a tale. Ie, ystori hir yw am fan driciau, a blinderau bychain, wedi eu hamcanu i wneud bywyd y Golyg- ydd yn anhapus a phryderus. Anibynwr yw Mr. Evans, a diacon ffyddlon yn Pendref, Carnarvon. Eto ni roes liw ei enwad ar ei erthyglau na'i waith Golygyddol. Cadwodd y dysgl yn wastad i'r holl enwadau, ac nid gorchwyl bychan oedd hyny. Gwnaeth ei oreu o blaid Éhyddfrydiaeth, a gweithiodd mewn amser ac allan o amser i wneud y Wasg Grenedlaethol yn allu yn y wlad. Er hyn i gyd ni foddlonodd rai pobl. Gwyr pawb sydd yn gyfarwydd a bywyd Cymreig yn Nogledd Cymru fod yma un enwad sydd yn hynod ar gyfrif ei orfaeliaeth a'i ysbryd trahaus. Myn wthio ei dáynion i swyddi ar fyrddau ysgolion, gwarcheidwaid, a chorfforiaethau, &c. Ni thal un dyn ddim os na bydd yn perthyn i'r NI holl bwysig. A rhagor na'r cwbl, fe haera rhai o arweddwyr yr enwad hwn nad oes gan unenwad arall ddyniono alluoedd a dylanwad cyfFelyb i'w dynion hwy. Ni phlygodd Mr. Evans, o'r cychwyn i'r Baal enwadol: ni leisiodd yn yr udgorn : ni chariodd goed i'r allor ; nid aeth o'i ffordd i ddyweud a " Welwch chi Ni." Gweithiodd ei oreu yn diwyd ac egniol. Eto dyma ei bechod. Ehaid canu clodydd Baal: rhaid bloeddio o'i flaen : rhaid plygu iddo neu gilio o'r