Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. 1L] RHAGFYR, 1877. [Rhif. 9 SAMUEL JOB, YSW., CLEVELAND, 0. GAN Y PARCH. FRED. EVANS (EDNYFED), FRANKLIN, PA. Fel rheol, cedwir ein brodyr lleygol ormod o'r golwg. Er yn perthyn i'r urdd weinidogaethol, parod wyf i ym- guddio, er dwyn i'r golwg frawd da a ffyddlon, gonest a thwymgalon, brwd- frydig a haelionus, ond heb y Parch, o fiaen ei enw. Mae gwasanaeth ein lleygwyr i'n henwad yn anmhrisiadwy. Mae eu haberthau yn lluosog a gwerth- fawr, eu dylanwad -yn bur a nerthol, a'u sel yn oleuedig a thanllyd. Nid ydym hyd yn hyn wedi rhoddi iddynt eu safle dyladwy. Perthyna gwrth- ddrych yr ysgrif bresenol i'r dosbarth hwn, a da genym, a chanoedd eraill, sylwi ar ei gysgod, yr hwn a addurna y rhifyn presenol. Ganwyd Samuel Job yn Cendl, Sir Frycheiniog, D. C, ar y ioeg o Dach- wedd, 1845 j felly nid yw yn awr ond 32am mlwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt David a Magaret. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn ieuanc, eithr y mae ei fam yn fyw ac yn iach, ac yn byw yn ei artref dedwydd a llawn. Symudodd y teulu o Cendl i Nantyglo yn 1850, ac yn 1855 symudasant i'r Blaenau Buont yma am ddeg o flyn- yddau, a thra yma bendithiwyd gweini- dogaeth Nefydd anfarwol er arwain y Uanc Samuel o dywyllwch i oleuni, ac 0 fcddiant yr un drwg i eiddo yr Un Da. Bu N/'fydd yn gyfaill calon iddo. Fei y gWy pob dyn ieuanc a ddaeth enoed i gyswllt a Nefydd, cyfaill preg- ethwr ieuanc oedd yr Hynafiaethydd o'r Blaenau, ac edrychai ar bob help estynedig i'r gwan fel darn o'i ddyled- swydd a rhan o'i bleser mawr, a'i fraint ddyrchafedig. Gall yr ysgrifenydd godi ei lef a dyweyd, " Diolch i ti,. O Dduw, am Roberts o'r Blaenau." Ar gais a dymuniad Nefydd, yn nghyd ag eiddo yr eglwys yn Salem, dechreuodd Mr. Job bregethu yr efengyl yn 1862. Pregethodd yn fynych yn Salera, gan roddi boddlonrwydd cyffredinol. Y mae ganddo barch diledryw i goffadwr- iaeth y cyfaill cywir, yr hynafiaethydd enwog, a'r pregethwr craffus ac efeng- ylaidd. Nid oes eisiau ond galw yn y "Bethel Home,''1 er cael profion o hyn. Yn mhob ystafell y mae darlun Nefydd, ac mewn ambell un y mae rhagor; uwchben y desk yn y swyddfa y mae un mewn frame orwych a chostfawr, ac yma y rhydd V r/anaad gyfteusdva. braf i edrych ar ddyn, ac nid llipryn di- sylwedd, ac er iddynt wybod pwy yw, y mae y geiriau caniynol dan y dar¬ lun :— REV. W. ROBERTS (Nefydd), LL. D., My deceased Pastor. Aeth Melin Haiarn y Blaenau i or- phwys am ychydig yn 1866 ; a bu hyn yn achos ymadawiad llawer, ac yn eu plith y brawd serchog Samuel Job. Terfynfan ei daith, a pharadwys ei or- phwysdra y tro hwn ydoedd Abercan-