Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] MAWETH, 1883. [Rhif. 12. Y BEDYDDWYR CYMREIG. GAN DR. PRICE, ABERDAR. Anerchiad a Draddodwydyn Nghyfarfod Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, yn Liverpool, Hydref, 1882. II. Yr oedd y flwyddyn 1790 yn noded- ig fel y flwyddyn y rhanwyd y gyrnan- fa. Hyd y flwyddyn 1790, yr oedd holl eglwysi Bedyddiedig Cymru yn cael eu cynwys mewn un gymanfa. Mor bell ag yr ymddengys i mi, safai pethau fel hyn y pryd hwnw : 46 o eg¬ lwysi, heb y cangenau; 61 o weinid- ogion ordeiniedig \ ond yr oedd hefyd nifer fawr o bregethwyr cynorthwyol. Nid oedd yr eglwysi y pryd hwnw yn rhoddi cyfrif yr aelodau; ond oddi- wrth lythyrau yr eglwysi at y gymanfa, cawn fod y nifer o 544 wedi eu bed- yddio yn ystod y flwyddyn gymanfaol. Yn y flwyddyn hon, yr oedd y gym¬ anfa yn cael ei ohynal yn y Dolau, yn Swydd Faesyfed, ac yn cynrychioli holl eglwysi Bedyddiedig Cymru, gydag un eithriad, sef eglwys Craig-y-Fargoed. Yn y gymania o dan sylw, yn hollol heddychlawn, tangnefeddus, a chariad- lawn, rhanwyd y gymanfa yn dair, a rhoddwyd iddynt yr enwau canlynol, sef y Gogledd, y De-Ddwyreiniol, a'r Orllewinol. Yn y flwyddyn 1794, mae yr eglwysi, am y tro cyntaf, yn rhoddi i mewn rif yr aelodau. Mae cyfrifon y flwyddyn 1794 yn dangos fod y pryd hwnw yn Nghymru 56 o eglwysi, yn cynwys 7,058 o aelodau. Pedair blynedd yn ddiweddarach (1798), mae Dr. John Rippon yn rhoddi rhif yr eglwysi Bed¬ yddiedig yn 84, yn cynwys 9,000 o aelodau mewn cyflawn gymundeb. Ni a symudwn yn mlaen i'r bedwar- edd ganrif ar bymtheg. Yn y flwydd¬ yn gyntaf o'r ganrif hon, sef yn 1800, yr oedd yr eglwysi Bedyddiedig yn Nghymru yn rhifo 86, ac yn cynwys dim llai na 12,000 mewn cyflawn gym¬ undeb. Yn ystod y deng mlynedd nesaf, derbyniodd yr eglwysi Bedydd¬ iedig, trwy drochiad yn unig, y rhif o 7,438 o aelodau. Yn y deng mlynedd nesaf, derbyniwyd trwy fedydd 8,839 yn gyflawn aelodau. Yn yr un mlyn-