Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] CHWEFROE, 1883. [Rhip. 11. Y BEDYDDWYR CYMREIG. GAN DR. PRICE, ABERDAR. Anerchiad a Draddodwyd yn Nghyfarfod Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, yn Liverpool, flydref, 1882. ;: Mr. Cadeirydd a Chyfeillion Crist- ionogol—-Rai blynyddau yn ol, ym- ddangosodd dau foneddwr ar gyfandir Ewrop—boneddigion o safle uchel o ran dysg a dylanwad. Y mae y ddau wedi datgan eu barn am y Bedyddwyr. Un addywedai " fod dechreuad y Bed¬ yddwyr wedi ei guddio mew© niwl a thywyllwch," tra y dywedai: y Hall, " fod i'r Bedyddwyr ddyfodiant go- goneddus." Trwy garedigrwydd y pwyllgor trefniadol, yr wyf fi yn sefyll rhwng y ddau ddyn hyn. Mae y Bedyddwyr Cymreig yn hoff iawn o hen bethau. Meddant y gallu i edrych yn ol trwy y niwl a'r tywyll- wch, er canfod y goleu eglur a dys- glaer sydd yr ochr draw. Yn wir, y maent yn ddigon didaraw yn gallu myned yn rhwydd oddiar lanau yr Iorddonen at Gomer, mab Japheth, ac wyr i Noah, ac nid ydynt yn gwbl sicr nad Cymraeg oedd yn cael ei siarad yn yr arch, yn ystod y misoedd y bu yn nofio ar wyneb y dyfroedd. Nid oes dim rhagfarn a all rwystro y Bed-,v yddwyr Cymreig i weled y bachgen a . anwyd, yn ei hen ddyddiau, i Zecha- rias ac Elizabeth, yr hwn fachgen, ar gais yr angel, a enwyd yn loan. Pan gyrhaeddodd y bachgen loan ei ddeng mlwydd ar hugain oed, mae ysbrydol- iaeth ddwyfol yn ei gyflwyno i sylw y byd yn y geiriau hyn: " Ac yn y dydd- iau hyny y daeth loan Fedyddiwr gan bregethu yn niffaethwch Judea." Mat. 3:1. Dyma ffaith nad oes modd ei gwadu, sef fod loan, fab Zacharias ac Elizabeth, yn Fedyddiwr. Mae Ys- bryd Glan Duw yn ei ddwyn i sylw fel y cyfryw. Ei brif .waith oedd preg- ethu edifeirwch, a bedyddio y credin- iol. Mae ysbrydoliaeth yn darlunio ei waith fel y canlyn : " Yna yr aeth all- an ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen; a hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pech^ odau." Mat. 8: 5, 6. Nid oesmoddy ar dir teg, i wadu y ffaith, mai Bed-