Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] IONAWR, 1883. [Ehif. 10. EGLYWSI HEB WEINID0GI0N Y raae yn ffaith fod nifer lluosog o'n heglwysi " mewn amryfal fanau," yn araddifaid o freintiau gweinidogaeth y gair; ac y mae llawer o'r eglwysi hyn, trwy hir gynefindod, wedi ymfoddloni yn y cyflwr annymunol hwn. Cynelir tipyn o ysgol yn Sabbothol, bron yn hollol yn yr iaith Saesneg, a thipyn o gwrdd gweddi yn flaenorol neu yn ddi- lynol, yn y Gymraeg. Dyna i gyd. Y raae yr achos yn darfod yma, medd- ynt, ac nid gwiw i ni ddysgwyl pethau gwell. Mae y Oymry yn yraadael o'r He, a ninau wedi myned yn ychydig mewn nifer, fel nad oes gobaith am nemawr lewyrch ar yr achos Cymreig yma mwy. Y mae yr ymadroddion yna yn swnio yn burion, yn neillduol pan yn cael eu hynganu gan bersonau fyddont eto yn aros yn gorlanau unig. Y gwirionedd yw, y mae ochr arall i'r ddalen mewn llawer iawn o engreifft- iau. Yri fynych gadewir y praidd Cymreig gan bersonau fyddont wedi eu haddfedu i hyny yn yr awyrgylch gwynfanus. Mae y fath ysbryd yn lladd ar bob Haw. Yn y lie hwnw di- chon y bydd dau neu dri, ac weithiau bedwar o bregethwyr cynorthwyol, heb neb yn gofyn iddynt i ba beth y maent yn dda. Anaml y deuant i'r addoliad. Llusgant yno yn guriedig ambell dro. Y mae ganddynt hwy wmbredd o achwyniadau yn erbyn y frawdoliaeth a'u hesgeulusant; ac y mae gan y frawdoliaeth, hithau, wmbredd o ach¬ wyniadau yn eu herbyn hwythau. Os dygwydd i ddyn dyeithr ddod heibio, mae yr achwyniadau yn barod i'w had- rodd, a dangosir dawn hylithr wrth fyned trostynt wrtho. Yn awr, ni fynem ar un cyfrif i " daflu dw'r oer" ar deimladau unrhyw frawd sydd yn ymdrechu cadw yr achos yn fyw o dan anhawsderau. Na fynem. Gwyddom am engreifftiau canmoladwy iawn o frodyr ymdrechgar; ond nid felly pawb. Mae y bai mewn mwy nag un man. Yn gyntaf oil mewn esgeulusiad o weinidogaeth. Wedi dechreu byw heb weinidogaeth, o'r diwedd cynefin- ir. Mewn cysylltiad k hyn mae y ddawn o gyfranu yn cael ei cholli. Ymsynir yn fewnol fel hyn : Yr ydym yn gwneyd yn weddol iawn fel hyn; gwnaethom y Sabboth diweddaf heb bregethwr; cawsom gwrdd gweddi, a phasiodd yn dda ddigon. Ac y mae y drafferth o dalu pregethwr yn y modd hwn yn cael ei hysgoi. Fel hyn wrth