Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] RHAGFYR, 1882. [Rhif. 9. AWDURDOD CRIST A DYLEDSWYDD DYNION GAN Y PARCH. A. WILLIAMS, YSTRAD RHONDDA, D. C. Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch."—Ioan ii. 5. Llefarwyd y testyn mewn priodas yn Cana Galilea. Mae llawer o bethau nad ydynt yn bwysig ynddynt eu hun- ain, wedi eu gwneyd yn bwysig ar gyf- rif cysylltiad yr Arglwydd Iesu a, hwy ; llawer o leoedd, amgylchiadau a pher- sonau felly, megys Bethlehem a Gol¬ gotha, ac yma priodas Cana Galilea. Peth digon cyffredin a dibwys ynddo ei hun ydyw priodas, ond y mae pres- enoldeb Iesu yno yn rhoddi pwysig- rwydd i'r lie a'r amgylchiad. " A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddysgyblion i'r briodas." Wedi i'r gwin ballu, daeth mam yr Iesu ato i ddweyd, " Nid oesganddynt mo'r gwin." Mae yn bosibl fod hyn yn dygwydd ar ail neu drydydd dydd y wledd, oblegid yr ydym yn cael fod gwleddoedd priodasol yn mysg yr Iu- ddewon yn parhau weithiau dros am- ryw ddyddiau. Ar y dydd cyntaf gwa- hoddid y dosbarth uchelaf, i'r rhai y rhoddid y bwydydd a'r diodydd gor- eu. Yr ail ddydd dosbarth is mewn parchusrwydd cymdeithasol, y rhai a fwynhaent ddarpariaethau llai moethus na'u blaenafiaid. Tebyg mai at hyn y cyfeiria llywodraethwr y wledd pan y dywed, " Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf," &c. 0§ gwir yr esboniad hwn, gwelwn fod y ddarpariaeth wedi darfod erbyn i'r bobl dlotaf ddod yno. Rhaid fod Mair wedi cael rhyw arwydd neu brawf cyn hyn o allu yr Iesu. Ato ef yn unig y mae yn myned a'r achos, a chyda Haw yn rhoddi gorchymyn y testyn i'r gwasanaethwyr. Goddefa y geiriau hyn gymwysiad eangach na'r. amgylchiad yn y cysyllt- iadau. Yr ydym heno wedi cyfarfod i weinyddu yr ordinhad o fedydd, ac nid anmhriodol galw yr amgylchiad yn bri- odas. Priodas sydd weithred allanol o gyfamod rhwng personau a'u gilydd yn ngwydd tystion; yr oedd undeb calon yn bodoli o'r blaen. Mae y cyfeillion sydd i'w bedyddio yn bwriadu rhoddi arddangosiad gweledig i'r gwyddfod- olion o'u hundeb & Christ; maent yn ei garu cyn heddyw, ac fel effaith hyny maent wedi anfon eu gostegion priodas i fewn i'r eglwys er ys wythnosau. "? testyn yw charge y briodas. "Beth byri-