Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] TACHWEDD, 1882. [Rhif. 8. DiOFALWCH PARTHED EIN HYMDDYGIADAU FEL CREF- YDDWYR. PAPYR A DDARLLENWYD YN NGHYMANFA DWYREINBARTH PA., YN NANTICOKE. GAN Y PARCH. W. D. THOMAS, PARSONS, PA. Ein hamcan yn newisiad y penawd uchod yw dangos y golled a ddaw i'n rhan fel canlyniad anocheladwy o feddu ar y nodwedd o ddiofalwch, yn nghyd a'r elw a geir o fod yn amddifad o honi. Collir llawer trwy ddiofalwch, tra mae y nodwedd wrthgyferbyniolf o'r tu arall, yn diogelu yr hyn sydd yn ein meddiant, ac yn gyfrwng i gasglu Uu o bethau da eraill atynt. Mae am- ryw wedi eu darostwng i dlodi a gwarth o herwydd eu diofalwch ; tra y ceir er¬ aill, o herwydd eu gofal, wedi codi o gyflwr o ddinodedd i gyfoeth a dylan- wad. Edrychwn ar y niwed a gynyrchir gan y drwg hwn ynom ni fel crefydd- wyr. Mewn petthynas a'r addoliad cyhoeddus. Mae lie i ofni nad yw y parch dyled- us yn cael ei dalu genyra bob amser i wrthddrych priodol addoliad. Gwir nad gwaith hawdd bob amser yw dod fyny at y ndd uchel hwn, o herwydd tuedd lygredig, a gwendid ein natur; ito yr ydym yn anesgusodol lawer pryd am y diffyg hwn ag sydd mor fynych yn ein nodweddu. Awn i'r cyfarfodydd yn ami, nid i addoli Duw, ond i fesur a chlorianu y pregethwr a'i faterion; ac os bydd peth- au yn cydweddu a'n chwaeth, braidd nad addolir y siaradwr genym ; ond os mai fel arall y byddant, cymer diystyr- wch feddiant lied gyflawn o'n meddwl. Gwneir niwed nid bychan gan yr ar- feriad hon i ni fel gwrandawyr, trwy ein anghymwyso i dderbyn yn briodol yr impiedig air, Dylai y meddwl fod yn rhydd oddiwrth y pethau yna pan yn myned i wrando Gair Duw. Gwnawn niwed hefyd i weinidogion, oblegid gan fod y teimlad hwnw yn yr eglwysi, cymellir hwy i foddio cywreinrwydd dynion yn fynych, yn hytrach na iawn gyfranu Gair yr Arglwydd. Mae gwir amcan a dyben pregethu, fel yna, yn cael ei golli. Nid y preg¬ ethwr ddylai gael ei wefcd, ond y groesj nid hyawdledd y siaradwr, ond cynwysiad efengyl y tangnefedd ddylai fod gwrthddrych ein hedmygedd. Gwas