Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•J Y WAWR. Cyf. VII.] HYDREF, 1882. [Rhif. 7. ADGOFION AM YR EIDAL. GAN Y PARCH. JOHN W. WILLIAMS, D. D., HYDE PARK, PA. Rhif IV. RHUFAIN.—I. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd Rhufain, canolbwynt y byd gwareidd- iedig yn amser sefydliad Cristionog- aeth. Mae y Via Appia yn arwain heibio bedd-ogofeydd St. Calixtus a St. Sebastiano, ac yn diweddu wrth y" Porto Capena, porth deheuol y diii»as.** Ar ein mynediad i fewn, gan fod yn- ddi gynifer o leoedd a gwrthddrychau o ddyddordeb neillduol i'r darllenydd, mae yn anhawdd penderfynu at ba un o honynt i gyfeirio ein sylw gyntaf. Man draw, wrth droed y Capitoline, gerllawy Forum, mae carchar Mamer- tine, lie, yn ol traddodiad, y bu'r ap- ostolion Petr a Paul yn garcharorion am hir amser, am " air Duw ac am dystiolaeth Iesu Grist." Yna y bu y ddau gyda'u gilydd yn rhwym naw mis wrth golofn, yr hon a ddangosir i'r ymwelydd yn bresenol. Yna, yn ol dysgeidiaeth eglwys Rhufain, y cyf- archodd y ddau apostol y byd Crist- ionogol am y waith olaf—Petr yn y geiriau, "Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra ;fyddwyf yn y taber- nacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi, gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megys yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. Ac mi a wnaf fy ngoreu ar allu o honoch bob amser, ar ol fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn." A Paul, yn y geiriau canlynol, wrth Timotheus: " Cofia gyfodi Iesu Grist o had Daf- ydd, o feirw, yn ol fy efengyl i : yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwg-weithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir....... Canys myfi yr awrhon a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd. Mi a ym- drechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y fFydd." O'r carchar yna y daeth Cicero allan i hysbysu y bobl yn y Forum fod y cyd- fradwyr Catalinaidd wedi eu dienydd- io, gan floeddio yr un gair Vixerimt— " Y maent wedi peidio byw." Yna y newynwyd Jugurtha, brenin Maurita¬ nia, i farwolaeth gan Marius. Yna y dyoddefodd Simon Bar-Gioras, amddi- flfynydd diwediaf Jwusalem> yn ystqd