Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] AWST, 1882. [Rhif. 5. Y CYFIEITHIAD DIWYG1EDIG SAESONAEG OR TESTAMENT NEWYDD. GAN Y PARCH. OWEN JAMES, M. A., HYDE PARK, PA. II. Wedi sylwi mewn ysgrif flaenorol ar yr angenrheidrwydd am gyfieithiad di- wygiedig, awn yn mlaen yn awr i syl¬ wi ar y diwygiadau ydynt wedi eu gwneyd. I. YDiwygiadau Tesiynol.—Y mae yn anmhosibl mewn ysgrifau byrion fel y rhai hyn, nodi pob cyfnewidiad sydd wedi ei wneyd mewn sillafiaeth, aceniaeth, a lleoliad geiriau. Rhaid cyfyngu ein nodiadau i'r cyfnewidiad- au hyny a wnant wahaniaeth amlwg yn y synwyr. Ceisiaf hefyd ddewis eng- reifftiau a roddant eglurhad ar yr eg- wyddorion a ddilynir, a'r dulliau a ar- ferir mewn beirniadaeth destynol. Yn Matthew 15:8, darllena y tes- tyn derbyniedig : " Y bobl hyn a nes- ant ataf a'u genau, a'm hanrhydeddant a'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi- wrthyf;" ond yn y testyn diwygiedig darllena : " Y bobl hyn a'm hanrhyd¬ eddant a'u gwefusau ; a'u calon sydd bell oddiwrthyf." Y mae y darlleniad byraf, sef yr un diwygiedig, yn cael ei ategu gan bump o'r llawysgrifau sydd mewn llythyren- au breision, sef y Sinaitic a'r Vatican o'r bedwaredd ganrif, a llawysgrifau a elwir D. a Tc. o'r chweched ganrif, ac L. o'r wythfed ganrif. Ategir ef hefyd gan ddwy law-ysgrifen mewn llythyr- enau rhedegog, sef yr un a elwir 33 o'r unfed-ganrif ar-ddeg, a'r un a elwir 124, perthynol i'r ddeuddegfed ganrif; hefyd gan yr hen gyfieithiad Lladin- aidd, gan y Vulgate; gan y cyfieithiad- au Curetorian a Peshito Syriac, y Mem- phetic, yr Ethiopic, yr Armenian a'r Persic, a chan luaws mawr o ddyfyn- iadau o'r tadau perthynol i'r ail a'r drydedd ganrif. O'r tu arall, y mae y darlleniad hiraf, sef yr un derbyniedig, i'w gael mewn pedair-ar-ddeg 0 lawysgrifau breision perthynol i'r burned, yr wythfed, y naw- fed a'r ddegfed canrifoedd, ac mewn rhai canoedd o lawysgrifau rhedegog perthynol i'r canrifoedd rhwng y ddeg¬ fed a'r unfed-ar-bymtheg. Y cwest- iwn yn awr yw, pa fodd y mae pender- fynu pa un a oedd y frawddeg mewn dadl yn perthyn i'r testyn gwreiddiol ai nad oedd ? Os oedd yn perthyn