Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] GORPHENAF, 1882. [Rhif. 4. CLODDIO AT, NID 0 DAN, Y SYLFEINI. GAN SYLWEDYDD. Mae gwyddoniaeth, sydd mor uchel ei rwysg a'i fost yn yr oes hon, i droi yn y man yn fanteisiol iawn i Grist- ionogaeth. Tybia rhai fod perygl— rhai gweiniaid yn Seion. Ofna rhai am fywyd Cristionogaeth, a bod gwy¬ ddoniaeth yn myned i gloddio o dan sylfeini crefydd, ac mai y canlyniad fydd dymchwelfa fawr ddigyffelyb. Y mae enwau Huxley, Heckel, Spencer, Tyndall, Darwin, ac eraiil, fel enwau ellyllon iddynt, a hyny am y credant eu bod yn elynion i'r pethau mwyaf anwyl ganddynt, ac agos at eu calon. A thra na theimla llawer yr un gradd- au o atgasrwydd tuag at yr athronwyr crybwylledig, ychydig, fe ddichon, o Gristionogion gwirioneddol sydd nad yw enwau felly yn swnio ryw fodd yn gas'iddynt. Ond nid oes eisiau i neb deimlo yn annymunol felly tuag at tmrhyw wir athronwyr; y maent yn mhlith y cyfeillion goreu i achos y gwirionedd yn y pen draw; y maent yn rhagredegwyr yn parotoi ffordd yr Arglwydd. A chan nad beth am ddy- ben a dymuniad rhai athronwyr yr oes hon—gan nad beth am deimladau y cyffredin o honynt tuag at y Beibl a Christionogaeth—y mae pob gwirion¬ edd a ddatguddir ganddynt yn sicr o fod yn fanteisiol i lwyddiant crefydd yn y diwedd. Awn can belled a dy- weyd fod y fath ddosbarth o feddyl- wyr yn angenrheidiol ac yn fendith- fawr (oddigerth y rhai cableddus, gwag- saw, gwatwarus—rhai gau) i'r byd; arloesant y ffordd, cloddiant at y syl¬ feini ; cariant ddylanwad cyffelyb, ond mwy bendigedig ac arosol, i erledig- aethau ofnadwy Rhufain Baganaidd a Phabaidd. Mae eisiau i grefydd gael ei phrofi; mae angen am nithio ym- aith yr us. Mae eisiau tymestloedd yn yr awyrgylch; mae eisiau mynyddau tanllyd; mae eisiau daeargrynfaau; mae eisiau llanw a thrai. I beth ? Mewn rhan helaeth i wastadhau peth¬ au—adferu cydbwysedd yn yr elfenau— i glirio tawch a niwl—i gadarnhau a chaledu crystyn y ddaear—mewn gair, er mwyn cyfaddasu y belen hon yn drigfan dyn—ei alluogi i ddilyn ei or- chwylion, a diogelu ei hapusrwydd; felly yn y byd crefyddol. Ofni am fywyd Cristionogaeth, yn wir ! Cofiwch y geiriau, "Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys. a phyrth