Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] MEHEFIN, 1882. [Rhif. 3. BLWYDDYN YN NGHYMRU. GAN Y PARCH. FRED. EVANS, D. D., (EDNYFED). Rhif II. Nid yn Llangynyd, ond yn Llan- gynwyd, y mae Maesteg. Mae y lie hwn yn enwog am eglwysi. Khifa ei- ddo y Bedyddwyr chwech neu saith : Salem, lie y treuliais flwyddyn hynod ddedwydd ; ^Bethel, lie y mae yr hygar Maurice; y Tabernacl, lie y pregetha yr athronyddol Jones ; Bethania, lie yr efengyla y seraph Hughes. Mae Cal- faria hefyd dan ofal yr angel o Beth¬ ania. Cawn yno ddwy eglwys gan y Trefnyddion Calfinaidd, pump gan yr Annibynwyr, un Wesleyaidd, un o eg- • lwysi Harri VIII., ac adeilad eanggan Babilon Fawr. Nid oes yno gynull- eidfaoedd mawrion, oddigerth yn Sa¬ lem a Bethania. Gweinidog Salem yn awr yw yr athrylithgar Oeulanydd, gynt o'r Tabernacl, Merthyr. Mae yn fardd rhagorol, ac enillodd, yn rhan- ol a Thalamus, ar "loan Emlyn," yn Eisteddfod fawr Merthyr, yn 1881 ; yn bregethwr coethedig a dylanwadol, a dymunwyf iddo o'm calon lwyddiant raawr. Sir hynod yw Morganwg, ar gyfrif llawer 0 bethau. Mae ynddi drefydd poblog iawn, megys Merthyr, Aber¬ tawe, a Chaerdydd. Yn y lleoedd hyn bu enwogion perthynbl i ni fel enwad, sef Gomer, yn Abertawe; Jones, Sei- on, Merthyr ; a Dafydd Jones yn Nghaerdydd. Yn Abertawe cawn hef*- yd Dr. Davies ddall, yn gweled mwy na'r cyffredin ; a'r talentog a'r cared- ig Jones bach. Yn Merthyr cawn y Demosthenes Cymreig, sef Koberts fawr, Emlyn dalentog a boneddigaidd, a Roberts dduwiol iawn, yn awr o Lwynhendy. Yn Nghaerdydd cawn William Jones ddifwlch, a Griffiths fen- digedig ei goffadwriaeth. Mae presenol rhai o'r lleoedd yma yn uchel. Yn Abertawe cawn yr es- boniadol Parry, yr ymarferol Lewis, a'r hyawdl Owen. Yn Nghaerdydd cawn y barddonol Humphrey, a'r duw- inyddol Thomas. Nis gwn pwy sydd yn Merthyr ar hyn o bryd. Gan fy mod wedi dechreu son am y lleoedd poblog, af yn mlaen gan enwi ami frawd ac ami le. Y lie Bedydd- iedig mwyaf hynod yn y byd crwn yw Dyfiryn Rhondda. Yn Mlaen y-Gwm y mae y brawd Maurice, ac y mae yn enwog am ei synwyr cyffredin, ei sel a'i