Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VII.] MAI, 1882. [Rhif. 2. PREGETH AR EGWYDDOR ADFERIADOL Y CYFANFYD. GAN Y PARCH. JOHN W. WILLIAMS, D. D., HYDE PARK, PA. IOAN Hi. 16.—" Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel. na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol." Mae y geiriau hyn yn perthyn i fyd. Llefarwyd hwynt gan un oedd wedi dy- fod oddiwrth Dduw, a'r unig un a wel- odd y byd hwn ag oedd yn ogyfuwch a Duw. Dim ond un dyn a'u clywodd hwynt o enau y Duw-ddyn, ond yr oedd yr un hwnw yn cynrychioli byd o drueiniaid. Llefarwyd hwynt yn nyfn- der y nos, pan oedd y byd yn gorphwys yn mreichiau cwsg; ond teilyngant gael eu hysgrifenu & phin o haiarn ar bob craig; eu lledu ar fanerau ar gopa pob clogwyn ; eu hargraffu mewn llyth- yrenau o aur ar hwyliau pob Hong a bad ; a'u cyhoeddi yn nghlustiau holl farwolion y ddaear. Tebyg nad oedd yr hwn a'u clywodd gyntaf yn gweled eu mawredd ar y pryd. Yr oedd Nic- odemus yn "ddysgawdwr yn Israel;" yr oedd wedi treulio ei fywyd mewn as- tudio y gyfraith, a dichon ei fod yn de- all natur yr hen oruchwyliaeth mor berffaith a'r goreu o'i gyd-oeswyr; ond nid oedd efe yn deall dim o athrawiaeth yr adenedigaeth. Adn. 3—10. Yr yd- oedd Iuddewiaeth wedi dirywio i gref- ydd ddefodol. Ffurf oedd ei Halpha a'i Homega. Yn yr oes hono yr oedd llawer llai o bwys yn cael ei osod ar fod yn eirwir, yn onest, ac yn rhinweddol, nag ar hyd y straps a lied y phylacter- au a pha rai yr oedd y pen a'r fraich yn cael eu haddurno. Yr oedd cref- ydd yr oes i'w gweled ar y pen ac ar y fraich, yn hytrach nag yn cael ei theim- lo yn y galon, a'i byw gan yr ysbryd. Yr oedd yr addolwr yn cael ei farnu wrth hyd ei weddiau, manylwch ei ddef- odau, a chywirdeb ei ystumiau cref- yddol. Yr oedd rhan bwysig o weinidogaeth ein Harglwydd yn cael ei chyfeirio at godi syniad y bobl am grefydd i glawr uwch. Wrth wneyd hyn mae yn dyfod i gyffyrddiad a dysgawdwyr crefyddol y genedl, yr hyn oedd yn rhoddi man- tais iddo i weled eu hanwybodaeth a'u dallineb. Yr oedd Iesu yn llefaru am fywyd, ac yn cyfeirio eu sylw oddiwrth wisgoedd, a mottoes, a rhwymynau, at y teimlad byw—at yr elfen ag oedd yn bodoli ar wahan oddiwrth yr holl all- anolion hyny. " Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddieithr geni dyn dra- chefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw." " Geni, geni," meddai Nic-