Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VIL] EBEILL, 1882. [Rhif. 1. FFRAEO 'N GYHOEDDUS. Gan bwy? Yn mha le? Gan rai athrawon, diaconiaid, ac aelodau eg- lwysig, yn y papyrau Cymreig. Mae yr arferiad goganus hwn trwy y cyf- ryngau hyn wedi bod mor gyffredin yn y blynyddau diweddaf, fel nad oes angen cyfeirio at un engraifFt neillduol. Ydyw, fel mae gwaethaf y modd, mae unigolion wedi bod yn llenwi y papyr¬ au a geiriau croes, a difriaeth bersonol, ac a cham-dystiolaethau ac a chyhudd- iadau o fod yn gelwyddog, o fod yn athrodus, o fod yn dwyllodrus. Myn rhai ymhyfhau fel ag i herio awdurdod Cymanfaol, gan sarnu pob rheol a threfn ger gwydd y byd Yn lie tra- fod anghydweliadau a beiau yn eu lle- oedd priodol, mae yn rhaid cael dad- lenu anmherffeithderau ger bron y cy- hoedd digred. Yn lie gwneyd i'w goleuni lewyrchu ger bron dynion, gwneir i'w tywyllwch dywyllu ger eu bronau. Ymddengys pethau yn waeth eto os sylwir ar y symbylydd i hyn oil. Nid lies yr achos, nid iachawdwriaeth pechaduriaid, nid gogoniant y Meistr, nid er mwyn anrhydedd deddf cariad, "cuddio lluaws o bechodau." Nid gyda'r amcan o wneyd Seion yn deg fel y lleuad, ac yn ofnadwy fel llu ban- erog. O nage ! ond er mwyn boddio hunan. Gellir casglu fod yn rhaid i hunan gael ei hawliau, pe byddai yr eglwys, crefydd, a phechaduriaid, yn myned oil i ddistryw. O! y fath warth ! O ! 'r fath drueni ! Y mae yr ymddygiad anghristionogol hwn yn ddigon i beri i bob Cristion ystyriol ddymuno fel Jeremiah, pan yn dweyd, "Ona bae fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynonau o ddagrau, fel y wylwn ddydd a nos am bechodau merch fy mhobl." Nid yw y drwg hwn yn gyfyngedig i un Enwad; y mae yn yr hen Enwad hyglodus, y Bedyddwyr. Gofid i'n calon ydyw gorfod cyfaddef hyn. Mae y ffraeo cyhoeddus hwn yn gwneyd drwg i'r papyr fyddo yn rhoddi He iddo—mae yn ei iselu; mae yn peri sawr ddrwg ; mae yn groes i fonedd- igeiddrwydd. Gwyddom fod golyg- wyr y papyrau yn teimlo o herwydd yr amryfusedd hwn ; ac os gofynwch idd- ynt paham y maent yn caniatau i'r fath lysnatedd anurddo eu papyrau, rhodd- ant y bai ar y personau enllibus fydd- ont yn ysgrifenu. Modd bynag, gwy- bydder fod y fath ddifriaeth a chroes- dynu, a ffraeo, yn darostwng cymeriad unrhyw bapyr fyddo yn rhoddi lie i'r fath fryntni. Nid anfynych y clywir personau yn dweyd nad ydynt hwy yn teimlo derbyn papyrau Cymreig er's