Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyp. VI.] MAWRTH, 1882. [Rhip. 12. ESBONIADAU YSGRYTHYROL. GAN Y PARCH. H. O. ROWLANDS, M. A., OSHKOSH, WIS. I astudiwr dyfal o'r Gair Dwyfol, y mae esboniad da arno yn gaffaeliad gwerthfawr. Mae esboniad yn debyg i ffon: mae un dda yn gymorth, ond mae cario dwsin yn faich. Mewn am- bell i lyfrgell, yn enwedig eiddo preg- ethwr, gwelir lluaws o esboniadau; ac ymffrostir ynddynt fel pe baent yn gy- foeth duwinyddol a meddyliol. Di- byna gwerth llyfrau o'r nodwedd uch- od ar eu natur, yn hytrach nag ar eu nifer. Yn wir, mae rhai esboniadau yn tywyllu y Beibl; er eu gwaethaf y gellir cael meddwl priodol y gair. Ychydig o esboniadau pregethol (horn- ileticat) ydynt yn help. Mor bell ag y mae ysbrydolrwydd {spirituality) yn myned, mae y Beibl yn fywyd ac yn gynaliaeth i enaid newynog fely mae. Y fath yw ei symledd, eglurder, a'i nerth, fel y gall yr hwn sydd yn rhedeg ddeall cyflawnder o hono i bob dyben ymarferol. Nid oes genyf un diolch i esboniad am ymgyfryngu rhyngwyf a symledd anwyl y gair. Geill yr enaid a ddynesa ato mewn ysbryd gweddi- gar a gostyngedig ddeall mwy o'i feddwl na'r hwn sydd yn ddysgedig ac yn ddeallus, ac eto yn fydol-ddoethyn. " Yn ysbrydol y bernir" y pethau hyn. Am hyny nid wyf i wedi derbyn ne- mawr les oddiwrth esboniadau ydynt yn pregethu ac yn ymdduwioli uwch- ben yr adnod hon ac acw, neu yr hyn a elwir yn homiletical ynddynt. Mae fel cymeryd canwyll i chwilio am haul y canolddydd, neu dori ffynon yn ymyl tarddellau bywiol. Wedi hyny, mae manylderau annar- fodol rhai esboniadau yn gwyn cyfiawn yn eu herbyn. Ymdebygant i ysbryd- oliaethwyr y bedwaredd ganrif, pan yr oedd pob gair a llythyren o'r Beibl yn cael eu llusgo i wneyd gwasanaeth na fwriadwyd iddynt. Dyma fai neilldu- ol yr esboniadau Germanaidd. Yn ei¬ ddo Lange mae y nodweddion uchod yn ei anafu yn dost. Mae lluaws o bethau gwir dda ynddo, ond mae cael gafael ynddynt fel chwilio am emau yn y tywod ; gwaith mawr iawn ydyw. Mae y pregethwr a bryna Lange, yn talu am bwys o aflesrwydd er cael owns o help. Mae henaint yn anaf rhai esboniad¬ au. Perthyn i'r byd hwn mae'r esbon¬ iad, a "myned heibio" yw nodwedd- iad pob peth daearol. Mae llawer o bethau anwyl, euraidd, a bendithfawr yn yr esboniadau a gyhoeddwyd haner can' mlynedd yn ol, ond prin y maent yr hyn mae llyfrgell yr oes hon eu heis- iau. Dylai yr ysgrifenydd esboniadol yr hwn sydd yn profFesu gwybodaeth o bethau teyrnas nefoedd, ddwyn allan bethau newydd yn gystal a hen. Mae daear ddarluniaeth (geography) ysgryth- yrol, darganfyddiadau henafiaethol, ieitheg, elfenau beirniadaeth, maent oil yn nghyda phethau eraill, yn elfenau bywiol o esboniadau Beiblaidd. Mae yr haner can' mlynedd diweddaf wedi