Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. VI.] Y WAWR. CHWEFROE, 1882. [Rhif. 11. BEDYDD YN Y PWLPUD. A oes digon o bregethu ein heg¬ wyddorion neillduol yn y pwlpud yn y dyddiau hyn ? Credwn nad oes. Yr oes o'r blaen nid oedd eisiau i neb fod yn ddyeithr o'n hegwyddorion, canys yr oeddynt yn cael eu pregethu yn hy- glyw a diofn o'r areithfa; ac yn yr ys- gol Sabbothol drachefn dysgid yr ieu- enctyd ynddynt yn ardderchog trwy yr holwyddoreg. Yr oedd effeithiau dymunol yn canlyn y dysgu hwnw. Gallai yr aelodau amddiffyn eu heg¬ wyddorion yn ddeallgar, Ysgrythyrol, a grymus, unrhyw adeg, gan nad pwy fuasai y gwrthwynebwr. Adnabyddid hyny hefyd yn fynych gan y gwrth- wynebwyr, pan yn teimlo gwendid eu hochr. Meddynt, " Yr y'ch chvw, y Bedyddwyr, yn cael eich dysgu gy- maint yn y materion neillduol yna, ac yn rhoddi cymaint o bwys arnynt, fel nad oes diolch i chwi fod yn fedrus i'w hamddiffyn, pryd nad ydym ni yn rhoddi nemawr bwys arnynt, nac yn talu nemawr o sylw iddynt." Eithaf gwir. A dymunol iawn i hi ydyw cyf- arfod a'n brodyr yma a thraw a gaws- ant fwynhau breintiau y weinidogaeth yr oes o'r blaen, a chael ar ddeall wrth ymddyddan a hwy am ein hegwyddor¬ ion neillduol, eu bod yn eu deall mor gywir. Dylem falchio yn hyn. Yr ydym bron yn sicr na cheid aelodau unrhyw enwad yn deall eu hegwyddor¬ ion cystal ag aelodau Bedyddiedig. Y mae y Bedyddwyr wedi cynyddu mewn rhif a dylanwad yn yr ugain mlynedd diweddaf efallai fwy nag y gwnaeth- ant o fewn corph yr un amser er dyddiau yr apostolion. Trefnodd rhagluniaeth i gyfodi yr enwog Mr. Spurgeon ar adeg neillduol o fanteisiol, dylanwad yr hwn a weithredai yn yr un cyfeiriad a dylanwad arosedig cewri yr oes o'r blaen, ac ar adeg pan oedd ffyddlondeb diwyro y Bedyddwyr yn gyffredinol yn peri i'r fantol droi yn eu flair. Erbyn hyn mae dylanwad y Bedyddwyr yn cael ei deimlo yn gy¬ ffredinol. Nid haeriad dibrawf yw hyn. Nage; onid dylanwad y Bed¬ yddwyr ydyw yr achos fod pob enwad bron yn awr yn arfer bedydd trwy drochiad, ac i raddau helaethach yn esgeuluso taenellu plant? Hefyd, fel y mae yn eithaf gwir, mae mwyneidd- iwch ein gwrthwynebwyr yn dyfod yn fwy amlwg yn barhaus tuag atom. Cyd- nabyddir yn awr yn dra chyffredinol nad oes ganddynt hwy ddim i'w ddy- weyd yn erbyn bedydd y Bedyddwyr -y yr unig achwyniad a ddygir yn ein herbyn ydyw pwnc y Oymundeb; a phe eglurid iddynt yn ddyladwy gy- sylltiad y ddwy ordinhad a'u gilydd, dystawent a'r achwyniad hwnw yn raddol. Yn y ffeithiau hyn tybiwn y gallwn ganfod yr achosion, i raddau, fod ein pwlpud yn awr mor ddystaw y'nghylch ein hegwyddorion neillduol, a'n hys- golion Sabbothol mor esgeulus i eg- wyddori yr ieuenctyd ynddynt. Ond a yw ein llwyddiant yn y gorphenol yn rheswm digonol dros i ni fod mor ddi- sylw ac esgeulus ? Y mae yn angen- rheidiol cadw yn llinell addysgiadol ein tadau, mewn rhan, er cadw y tir a enillasom. Mae eisiau i'r to sydd yn codi i wybod nid yn unig beth ydynt