Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VI.] RHAGFYR, 1881. [Rhif. 9. Y PARCH. FRANCIS HILEY, LLANWENARTH. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, TAYLORVILLE, PA. I. Amryw o weinidogion yr enwad a aned yn y Cymydd : David Jones, Pontypool, yn Cwmaman ; Thomas Morris, Casnewydd, yn Owmanaeth; Joshua Thomas, Llanllieni, yn Cwm- pedol; a Francis Hiley yn Cwmwen- arth, ar Ian afon Wysg, yn Mynwy, ac yn agos i dref y Fenni Fwyn, yn y fl. 1781. Enwid ei rieni yn William ac Anne Hiley, yn meddu tyddyn eu hunain i fyw arno ; a magodd y rhai hyn saith o feibion a thair o ferched yno, a dyna nifer teulu Job yn gryno. Bu William Hiley farw heb arddel Iesu, er yn wrandawr cyson o'i genad- wri; ond yr oedd y fam yn aelod yn Llanwenarth, a bu yn ffyddlon yn y ty am driugain a phump o flwyddi; ac yn Medi, 1844, y bu farw, i fyw drachefn yn mroydd y mwynhad a'r molianu. Treuliodd Mr. Francis Hiley flynydd- oedd boreuaf bywyd yn Llanddewi Rhydderch, yn cael ei ddysgu yn eg- wyddorion amaethu gyda manylrwydd mwy yn y swyddi o hau a medi, clodd- io a phlanu, llyfnu y maes, a thrin y perthi. Tra bu yno yr oedd yn ddyn ieuanc anystywallt ei arferion, gwyllt ei dueddion, ac ysmala ei ymddyddan- ion. Elai yn ami i hen ysgubor o'r neilldu, ac yn y gwellt y bu droion ar weddi; ac yr oedd un Joshua Lewis iddo yn gwmni. Tair golygfa gwerth eu cofio yw, Francis Drake yn mor- dwyo o amgylch y gwledydd, Francis Bacon yn egluro deddfau y meddwl i dorfeydd, a Francis Hiley yn ysgub¬ or Llanddewi ger bron yr Arglwydd mewn gweddi. Tri gweinidog o fri mawr gyda y Bedyddwyr yn cydoesi, a'r Uythyren H yn cychwyn enwau y tri, oedd Hier, o Basaleg, yn toddi y dorf i wylo; Herring, Aberteifi, yn taro y tabwrdd i gyffro, a Hiley, Llan¬ wenarth, yn telynori uwch y fro. II. Amryw flwyddi y bu yn ceisio crefydd. Trwy wrando un Morgan Davies yn pregethu ar " guddio bywyd gyda'r Iesu," y cafodd Francis Hiley ei argyhoeddi. Bedyddiwyd ef gan yr haeddbarch James Lewis, Llanwenarth, yn 1803, a Francis Hiley yn 22 ml. oed. Dwyfol ras yn cychwyn, Mor¬ gan Davies yn ofFeryn, Francis Hiley yn gredadyn, a James Lewis yn ei dderbyn i'r gynulleidfa. Adeiladwyd addoldy Llanwenarth yn y flwyddyn 1695, a'i oriel, ei seti, ei areithfa, a bwrdd y cymun yno o dderw, na thyf- odd erioed yn Basan un ddewen yn rhagori. Ar Sabboth yn yr haf y mae Llanwenarth yn Eden i addoli, yn bar- adwys drwyddi, a Gosen y goleuni. Monwent fawr yn eiddawg i'r addoldy, gorweddfaoedd y meirw wedi eu gwynu, a blodau Mehefin megys man angelion yn gwylio pob gwely, ac am dano yn gofalu. Erbyn 1804 mae yn cychwyn gyda y pregethu ; yn 1808 y mae yn Athrofa Mr. Micah Thomas, yn Aber- gaveni, ac yno y bu ddwy flynedd yn ymroddi. Tra yn yr Athrofa anfonid am dano gan lawer o eglwysi; myfyr- wyr llai yn cenfigenu, a Francis Hiley