Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VI.] HYDREF, 1881. [Rhif. 7. Y PARCH. BENJAMIN THOMAS, PENRHIWGOCH. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, TAYLORVILLE, PA. I. Agorodd ei lygaid gyntaf yn mhentref Cilgeran. Mynych y cwyn- ir mai cul yw Cymru; ac nid yw yn gwadu. Ac y mae Cilbebyll yn Mor- ganwg, Cilmaenllwyd yn Myrddin, Cilfain yn Mrycheiniog, a Chilgeran yn Mhenfro. Rhyw frenin yn nydd- iau Owain Glyndwr, a ddigiodd wrth ei ferch am briodi; Ann oedd yn enw ami; ac i ddial ami am briodi a'r bachgen Bili, mynegodd ei thad iddi, "Culfyddy caerau i ti, Ann." Ad- nabyddus iawn fu William Morris, Cil¬ geran, drwy Walia; Thomas John, Cilgeran, oedd wr hyglod; ac yn Cil¬ geran y ganed Benjamin Thomas, Pen- rhiwgoch. Meddwl yr wyf fi mai yn y flwyddyn 1804 y cafodd. ei eni; a bu aflonyddwch mawr yn y Werddon y flwyddyn hono, fel eleni. Robert Em- mett oedd yn ei achosi, a lladdwyd Arglwydd Cilwarden a nai iddo gan y Parnelliaid oedd y cyfnod hwnw yn blaenori. Y mae cyfoethogion yn y Bridell, y ty mawr Cilfowyr, yn Llan- goedmor, a phalas Cilwendeg; ond y cyffredinolion gan mwyaf yn preswylio Cilgeran. Twno y meini llwydion, taflu rhwydau i'r afon, a chyflawni pob cyflfredin orchwylion, y byddai pobl onest Cilgeran. Adwaenwn y tri brawd, David yn masnachu glo yn Aberteifi ; John yn archenyddwr yn Cilgeran, a Benjamin yn was i'r Iesu yn Penrhiw- goch; ac yr oedd y tri yn grefyddol iawn, ac yn dwyn tebygolrwydd neill- duol i'w gilydd. Tu hwnt i Lechryd y mae Tregaron; draw i Monachlog- ddu y mae Trelech, ac heibio i Lan- dudoch y mae Trewyddel, a phobl er- aill yn byw yno ; ond magwyd Benja¬ min Thomas yn Cilgeran ; y Bedydd- wyr yno yn blaenori, a Penuel y gal- want yr addoldy. II. Afon Teifi oedd y man ei bed- yddiwyd. Mae afon Teifi yn golchi gwyneb Cilgeran, yn magu pysgod i'r bobl, ac yn rhoddi lie i fedyddio y sawl fyddai yn credu. Ac nid oedd hi yn lluddias dwfr i daenellu; ond myn- egwyd i mi mai gwell gan yr afon y sawl fyddai yn soddi. Tri Benjamin o fri a fedyddiwyd ynddi—Benjamin Da- vies, Cilfowyr ; Benjamin Jones, Coed- mor, a Benjamin Thomas, Cilgeran.. Rhyw impyn bach oedd efe yn cael ei fedyddio ; y dawnus John Henry yn ei fedyddio ; a glynodd gyda'r Iesu wedi ei fedyddio am ddeugain mlynedd, os nad mwy. Trueni na buasai Mr. Tho¬ mas, Cwmbach, Llanelli; Mrs. Evans, yi Erw-wastad, Llanedi; a Richard Jones, Pontarddulais, yn fyw yn awr i ddarllen y manylion am anwylddyn eu calon. Eithr y mae Benjamin Thomas, Ysw., Cornhwrdd, Llanelli, wedi cael yr enw Benjamin gan ei rieni er mwyn Benjamin Thomas, Penrhiwgoch, ac i ddal ei enw i fyny. III. Addasdeb ynddo i gylch cy- hoeddus. Mae Duw yn donio yr afon i glebran a'r meini, y daran i roddi bloedd, a'r eos i ganu. Ac yr oedd y daran, yr afon, a'r eos yn y bachgen o