Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VI.] MEDI, 1881. [Rhif. 6. Y PARCH. JOHN JENKINS, D. D , HENGOED. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, TAYLORVILLE, PA. Tal yn mhlith y llu, ac yn llawn pump o droedfeddi, a deg modfedd i ychwanegu, yn y cyfeirnod a gymer dyn tuag i fyny, talcen y pwyllebwr, trwyn main, llygaid mwynion, a gwedd yn dynodi meddylgarwch, boddineb, a mwynhad. Trwsiad am dano fyddai hugan las, gwasgod ddu, llodrau llwyd- ion, het lydan, a napcyn sidan neu y gwyn. Tywysog a fu yn mhlitb Bed¬ yddwyr Cymru am ddeg-a-deugain o flwyddi. " Shon Siencyn" y byddai yr hen bobl yn ei enwi; John Jenkins, meddai ambell un; Mr. Jenkins, medd- ai Miss Thomas, Tygwyn • a Dr. Jen¬ kins bellach gan y werin. Rhag meith- der, cymerwn destyn i bregethu am dano yn Exodus xxxii. 18: "Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am or- uchafiaeth, ac nid llais gwaeddi am golli y maes; ond swn canu a glyw- af fi." I. Tri llais, a'r cyntaf yn adrodd achau yr arwr. i. Am y blaguryn boreuol. Ei dad oedd Jenkin Jenkins, gwr moesol a di- niwed, a darllenwr y Beibl gyda man- ylrwydd. Ei fam oedd Margaret Plu- mer cyn iddi briodi; ac yn Eglwys y Plwyf yr oedd hi yn arddel crefydd. Ei frodyr a'i chwiorydd yn saith o nif- er, ac efe oedd yr ieuangaf ond un o blant ei rieni. Ei Sir oedd Brychein- iog, yn blodeuo swynion; ei blwyf oedd Llangynidr, ar geulan afon ; ei gartref oedd Cilfynydd, ar y fron ; a mis ei eni oedd Tachwedd anhylon, a'r 28ain o'r mis hwnw, yn y flwyddyn 1779, y daeth John Jenkins i'r byd i ymboeni; "a'r gauaf oedd hi." Dyna Brycheiniog yn bwydo awdwr i " Bal- as Arian ;" Llangynidr yn magu es- boniwr y Beibl drwyddo; a Chilfyn- ydd yn codi lladmerydd i'r llu. 2. Am dano yn blentyn cynyddol. Pan yn bedair mlwydd oed, drwy ym- ddyddanion ei fam a dynes arall yn y ty, y gwybu y medda dyn enaid nad yw i drengu. Pan yn bum' mlwydd yr oedd yn.caru gwrando ei dad yn darllen mahylion Jacob a Laban, hel- yntion Joseph yn Midian, a nodwedd- ion Moses a theulu Canaan ; a phan yn naw mlwydd, bu yn y maes yn myfyrio y Mawrhydi yn mhenod y blodau, memrwn y meillion, a Salm yr afon yn murmur ei melodi. Ac yr oedd mam yn addysgu, tad yn athroni, ac anian yn ei arddenu i drigfa goleuni. 3. Am y bachgenyn dewisol. Ac efe yn 12 oed, aeth i Lansantffraid, chwe' milldir islaw Aberhonddu, at amaethwr yno i weinyddu; ac yr oedd y meistr yn darllen y Beibl a'i barchu, yn cadw y Sabboth, ac yn gwrando yr efengyl. Tua'r flwyddyn 1792 daeth y Parch. James Lewis, Llanwenarth, Mynwy, i Langynidr, i bregethu, a gwybu John Jenkins am y fath blaid a'r Bedyddwyr yn bodoli. Tyddynwr yn byw yn y Tyle oedd y cyntaf a ganfu yn cael ei fedyddio, a theimlai yn an- foddlon i'r Bedyddwyr am weinyddu, i'r bedyddiedig am iddo blygu, ac i'r