Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VI.] MEHEFIN, 1881. [Rhif. 3. Y DEG LLWYTH. GAN Y PARCH. HUGH JONES, D. D., PRIF ATHRAW COLEG LLANGOLLEN. Our Israelitish Origin.—Lectures on Ancient Israel, and the Israelitish Origin of the Mod¬ ern Nations of Europe. By J. Wilson. London, 1845. Proofs for the Welsh that the British are the Lost Tribes of Israel. By Lazarus. Bangor, 1880. Are we Israelites ?—The Testimony of History, Philology, and Ethnology on the Subject. By Rev. B. W. Sairle, M. A. London, 1879. The Nestorians ; or, The Lost Tribes : Containing Evidence of their Identity, an Ac¬ count of their Manners, Customs and Ceremonies, &c. By Asahel Grant, M. D. Lon¬ don, 1841. Review of Dr. Grant's Theory of the Lost Tribes. By Edward Robinson, D. D. (In the "American Biblical Repository," 1841, 1842.) RHAN I. Un o ganlyniadau chwerwaf rhyfel a buddugoliaeth yn yr hen oesoedd, yd- oedd cludiad llwythau a chenedloedd i alltudiaeth, a gwerthiad miloedd i gaethiwed ; gan y byddai hyn yn eu cymeryd ymaith o olygfeydd maboed, oddiwrth feddrodau eu henafiaid, a themlau eu duwiau, a'u trosglwyddo 0 dan lywodraeth meistriaid newyddion anystyriol a chreulawn, heb son am y caledi a'r dinystr a gyrnerai le wrth eu symud. Yr oedd symud trigolion tref neu wlad i alltudiaeth, yn esmwythach cosb na'u dedfrydiad i gaethwasiaeth. Bydd¬ ai gorthrymwyr yn symud trigolion y naill dref neu wlad i'r Hall, naill ai er mwyn llenwi yn gyflym ddinasoedd newyddion a phreswylwyr, neu er gwneyd gwrthryfel pellach o'u tu hwynt yn anmhosibl. Er cyrhaedd yr am- canion hyn byddid yn sicr o arwain i alltudiaeth y crefftwyr a'r llaw-weith- wyr o bob math, yn nghyda theulu- oedd a phersonau cyfrifol, a'r milwyr. A chaethgludiad a thynged y " Deg Llwyth" y mae a fynom yn yr erthygl hon, ac at ei hanes hwy, gan hyny, a'r gwahanol dybiau yh ei cylch, y cyfeir- iwn sylw y darllenydd. I.—CRYNODEB O HANES CAETHGLUD- IAD Y DEG LLWYTH. Darfu i'r brenin Solomon yn ei hen- aint roddi ffordd i'w wragedd eilun- addolgar, a myned ar ol duwiau dy- eithr. Gan i Solomon adael Duw, fe ddigiodd Duw wrtho yntau. Yr acti¬ os o ffurnad y Deg Llwyth fel teyrnas annibynol, oedd eilun-addoliaeth Sol¬ omon, er mai yr achlysur oedd ysbryd uchel-geisiol a gwladlywiaeth orthrym- us Rehoboam ; ac eilun-addoliaeth y Deg Llwyth eu hunain, drachefn, a fu yn achos o ddinystr eu teyrnas. Nid ar unwaith y caethgludwyd y Deg Llwyth i wlad ddyeithr. Ym- ddengys fod dau gaethgludiad wedi cy¬ meryd He, a bod tuag ugain mlynedd rhwng y cyntaf a'r diweddaf.