Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WAWR. Cyf. VI.] EBRILL, 1881. [Rhif. 1. BRYS I FEDYDDIO. " Brys i fedyddio ! Beth a fedd- yliwch wrth hyny ? Ai myned i'r dwfr yn rhy frysiog gyda'r ymofynydd a feddylir ? Os felly, credwyf fod lie i ddiwygio yn fawr. Gwelsom er ein gofid, ami i dro, weinidog yn rhuthro i'r dwfr ac yn claddu y bedyddiedig yn drystfawr ac annymunol. a thrwy hyny gwneyd cam mawr a'r ordinhad sanctaidd. Da iawn fyddai llai o frys." Dealled y darllenydd, beth bynag, am wir ystyr penawd ein hysgrif—nad brys yn yr ystyr soniedig a dybiwn yma; nage, nage, brys wrth fedyddio fyddai hyny—brys i fedyddio a ddy- wedwn yn bresenol. Wedi sylwi ar ffeithiau yn taro ar y mater hwn, ac wedi ymddydda» a rhai brodyr doeth a da, barnwn yn ddifrifol ein bod yn dra agos i'r gwir wrth ddy- weyd, fod gormod o frys i fedyddio personau yn fynych yn ein plith. Beth pe cyfeirid sylw ac ystyriaeth, i dde- chreu, at yr holl niferoedd gwrthgilwyr a geir trwy y sefydliadau Cymreig yn y wlad hon ; o'r braidd nad ellid dweyd eu bod yn lluosocach mewn llawer man nag aelodau eglwys y lie. A ydym i feddwl fod y rhai hyn i gyd, neu y mwyafrif o honynt, erioed wedi bod yn wir gredinwyr yn Mab Duw, ac wedi edifarhau am eu bai, a phrofi nerthoedd y byd a ddaw ? Ac mae lie i ofni fod lluoedd o'r gwrthgilwyr hyn yn mhell- ach nag erioed oddiwrth deyrnas nef- oedd. Onid ydyw yn naturiol amheu a raont dan brawf digonol erioed cyn eu harwain i ddwfr y bedydd ? Nid yw y Bedyddwyr, ac yn neillduol y Bed- yddwyr Cymreig, yn arfer corlanu pech- aduriaid trwy gynal cyfarfodydd cyn- hyrfus a baldorddus, "fel mae rhai en- wadau crefyddol yn arfer gwneyd, pryd y gorfodir bron, yr eiddilaidd, yr ofn- us, a'r unplyg, ac weithiau bersonau uwchraddol, i ymfyddino dan eu baner. Y canlyniad o hyny fydd iddynt fyned gydag awelon gwrthgiliadol. Nid yw ein pobl ni, trwy drugaredd, yn syrth- io i'r amryfusedd cadarn yna, a'i gyffel- yb. Modd bynag y mae gyda ni ryw bethau ag ydynt yn meddu yr un can- lyniadau annymunol i raddau pell gyda golwg ar y mater dan sylw. Y mae rhyw fath o lacrwydd rhyfeddol wedi llithro i mewn i'r eglwysi ar y pen hwn. Heblaw math o gyffes syml, fer, gan yr ymgeisydd, o'i ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, a thystiolaeth gydsyniol o ysgrythyroldeb ffydd ac ymarferiad yr Enwad, ni cheir nemawr o arbrawf pell- ach. Yn gysylltiol a hyn eto, fel yn cyd-redeg i'r un cyfeiriad pen-agored, amlygir brys gan y gweinidog weithiau am gael ychwanegiad at ei eglwys, fel ffrwyth ei lafur a'i weinidogaeth ef, yr hyn yn ei le, ac i derfynau priodol, sydd yn eithaf canmoladwy. Gallwn nodi yn mhellach eto, fel canlyniad gormod brys i fedyddio, yn ychwaneg- ol at nifer y gwrthgilwyr, nodwedd ar- wynebol amryw ydynt yn aros ar yr enw. Oni welir cryn lawer o absenol- deb sgl, brwdfrydedd, tangnefedd, a gweithgarwch pobl yn ofni Duw ? I ddod at yr hyn sydd ar ein meddwl yn fyr ac yn blaen, dywedwn, ein bod yn credu nad yw personau fyddont am