Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Rhif 2.] EBRILL, 1891. [Cyf. IX. CIPDEEM AE HANES ADDYSG YN NGHYMEU. IV. Yn ein hysgrif ddiweddaf, ni a roddasom ìyw fraslinelliad o hanes hen Athrofa Trosnant, ger Pontypwl,—athrofa gyntaf y Bedyddwyr yn Nghyniru. Yn yr ysgiif hon ni a alwn sylw ein darllenwyr at ddau o hea sefydliadau addysgiadol ereill; sef Athrofa yr Annibynwj-r yn y Fenni, a hen Ysgol Eamadegol Ystrad Meirig. Gadawer i ni ddechreu gyda hen Athrofa y Fenni—hen athrofa yr Annibyn- wyr yn y Fenni: nid athrofa y Bedyddwyr yno,—daw hono dan ein sylw eto. Y mae hanes yr athrofa hon yn tebygoli yn fawr i hanes Athrofa Caerfyrddin, yr hon a fras-linellwyd genym yn Ý Geninen am Ebrill, 1886, tudal. 120—121. Bu y naill fel y llall yn bur ansefydlog mewn un golygiad am flynyddau lawer, —yn cael >u symud fel yr arch gynt, neu bebyll y patrieirch cyn hyny, o le i le. Sefydlwyd hi yn y nwyddyn 1755—tair blynedd ar hugain ar ol sefydliad Athrofa Troanant. Ei hathraw cyntaf ydoedd y Parch. David Jardine, gwein- idog yr eglwys Annibynol yn y Fenm. Mab ydoedd Mr. Jardine i'r Parch. James Jardine, gweinidog y Presbyteriaid yn Ninbych. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin, dan y Meistri Davies a Thomas; ac er nad ydoedd ond ieuanc pan ymgymerodd â'r athrofa, ac na chafodd fyw ond un mlynedd ar ddeg i lafurio gyäa hi, eto bu yn hynod o lwyddianus i'w gosod ar sylfeini cymharol ddyogel. Athrofa i ddysgu dynion ieuainc i waith mawr y Weinidogaeth, ac nid lle yr athrofa, oedd yn bwysig yn yr oes hono. Dilynwyd y Parch. David Jardine gan y Parch. Benjamin Davies,—y Dr. Davies ar ol hyny. Mab ydoedd yr athraw dysgedig hwn i'r Parch. Eees Davies, gweinidog yr eglwys Annibynol yn Mhenygraig, swydd Gaerfyrddin, ac un o hen fyfyrwyr Athrofa Caerfyrddin. Bu yn athraw llafurus a llwyddianus iawn yn y Fenni am un mlynedd ar bymtheg—hyd nes y cafodd alwad yn 1782 i fod yn olynydd i Dr. Fisher i Goleg Homerton, Llundain. Ar ymadawiad Dr. Davies âg Athrofa'r Fenni, etholwyd y Parch. Elward Wilhams, Croesoswallt, i fod yn olynydd iddo. Brodor oe'dd y Parch. Edward Williams o Glanclyd, ger Dinbych, ac hen ddisgybl i Dr. Davies ei ragflaenydd. Gwedi gorphen ei efrydiaeth yn Athrofa y Fenni, bu yn gweinidogaethu am beth amser yn Eoss, swydd Henffordd; yna symudodd i Groesoswallt; ac yno yr oedd pan y cafodd yr alwad i lywyddu yr athrofa. Ni theimlai yn hawdd i symud i'r Fenni; ac, yn gall iawn, pender- fynodd cyfeillion yr athrofa ei symud hi ato ef. Dichon nad oedd y cri dwl o " Ogledd a De "—" North and South" yr hwn sydd mor niweidiol i ni fel cenedl yn y dyddiau hyn, yn bodoli y pryd hwnw; ac os oedd, nid oedd yn ddigon cryf i atal yr hen Annibynwyr i symud athrofa o'r De i'r Gogledd er niwyn cael dyn teilwng i'w harol}'gu. Tybed na allem ninau yn yr oes hon gymeryd gwers oddiwrthynt, a rhoi mwy o bwys ar ddynion iawn a chymwys i fod yn athrawon yn einhathrofau, a llai o lawer o bwys ar eu lleoliad ? Modd bynag, yr oedd y Parch. Edward Williams—Dr. Williams, ac awdwr yr Essay on the Eauity of Dẁine Governmmt, wedi hyny—yn werth i symud athrofa ato o'r Fenni i Groes- oswallt er mwyn cael ei wasanaeth ynddi. Ar ol ei symud, dywedir i'r athraw newydd ymdaflu yn gyfangwbl i'r gwaith athrawol; dechreuodd ar gyfres o