Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

;. Y GENINEN: Cplrögraton Ceneìrlaetöol. Rhif 1.] IONAWR, 1891. [Cyf. IX. CANMLWYDDIANT MAEWOLAETH JOHN WESLEY. Pan wawria yr ail ddydd o Fawrth nesaf bydd canrif gyfan wedi llithro ymaith er pan hunodd yr Hybarch John Wesloy yn yr Iesu, yn ei breswyl yn City Eoad, Llundain. Dywedir fod sefyll mewn pellder cymedrol yn fanteisiol i ganfod mawredd; os felly, gall y cy'fwng o ganmlwydd sydd rhyngom a thestjrn yr erthygl hon ein gosod ar safle gyfleus i adolygu ei gymeriad a'i waith. Ym- ddengys fod dadl rhwng pobl Bethesda a Llanberis parthed uchder cymharol Car- nedd Llewelyn a'r Wyddfa. Pe safent lle y safwn i ar ddiwrnod tawel, clir, yn mis Hydref diweddaf, ar fryn Pengarnisiog yn Môn, pan ymddangosai mynyddoedd Arfon fel un gynulleidfa ardderchog yn codi ar flaenau eu traed i wrandaw ar gyfrinach y fîurfafen, byddai yn ddigon hawdd iddynt ddweyd pa un yw y talaf. Ni roddodd ei gyfoeswyr, nac ychwaith yr oes agosaf ato, i John Wesley y lle a deilyngai, am eu bod yn rhy agos ato i weled ei holl fawredd; ond yr ydym ni yn cael sefyll bellder canrif oddiwrtho; ac os nad oes rhywbeth yn anfeddyg- iniaethol ddrwg yn ein golygon, nid ydym yn petruso dweyd, a chymeryd pob- peth i ystyriaeth, yr ymddengys i ni y mwyaf yn- ei oes. Yr oedd Butler yn ddyfnach athronydd, ac yn gryfach a lletach meddyliwr; rhagorai Whitefìeld arno mewn hyawdledd, ac yr oedd dylanwad ei bregethau yn fwy ysgubol; tra yr oedd Charles ei frawd yn fwy awenyddol, ac yn rhagorach emynydd. Ond m«wn amlochredd, mewn cyfuniad o alluoedd amrywiol; mewn gallu i gyn- llunio, a gweithio ei gynlluniau allan mewn; cryfder ewyllys a thynerwch teimlad.; mewn llwyredd ymroddiad a llafur diorphwys, ni welodd y ddeunaw- fed ganrif hafal i John Wesley, ac ni adawodd yr un o'i meibion glewion ddyl- anwad cyfartal er daioni ar y byd. Hoffwn osod gerbron y darllenydd ddarlun tarawgar a chywir o'r dyn rhagorol hwn; ond pa foddy gallaf ? Heb son dim am amddifadrwydd medr i drin y lliwiau, mae John Wesley y fath gymeriad nas gellir ei osod allan yn iawn ond yn ei berthynas â'i amgylchoedd—yn ei berthynas â'r amgylchiadau yr oedd ynbyw ynddynt. Tybiahyn roddi lle helaeth i'r perspedẁe, tra mae fy nghynfas innau yn hynod brin. Os rhoddaf i'r prif ffigiwr y maintioli a deilynga ni bydd genyf le i ddim arall; ac ofnwyf y gwnai hyny fy narlun mor ddof ac annyddorol a darluniau y Chineaid. O'r ochr arall, wrth dyrru llawer i ychydig o le^-byddaf mewn perygl o fethu dal llygad yr edrychydd, ac i adael ìddo basio heibio heb gymaint a sylwi ar fy nhipyn darlun. Modd bynag, mae yn well genyf redeg yr antur yn y cyfeiriad hwn na cheisio tynnu portread o'm harwr heb wneyd hynny yn rgoleu yr oes yr oedd yn byw ynddi. Gadawer i ni, felly, yn y fan hon, daflu cipdrem dros gyflwr moesol a chref- yddol y wlad yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Gadawaf i'r rhai oedd yn byw yn yr oes honno roddi desgrifiad ohoni. " Yr wyf yn byw," ebai Warburton, " mewn argyfwng pan mae crefydd wedi colli ei gafael ar feddyl- lau^y bobl." " Mae crefydd ysbrydol," ebai Isaac Watts, "mewn dirywiad ^Jŵol yn mhlith Ymneillduwyr fel Eglwyswyr." Ebai yr Esgob Butler, Oymerir yn ganiataol gan lawer nad ýw Cristionogaeth yn gymaint a thestyn o ymchwiliad. ****** Ohwarddant am ben Cristionogaeth, a chabl- ant ei Hawdwr." Cwynai Addison, yn ogystal ag Esgob Lichfield, fod crefydd