Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

216 GOHEBIAETHAU. Yn nesaf, " A oedd ffordd yn myned o Gaerseon trwy Eifionydd i gyfeiriad Tomen y Mur?" Yr ydym yn credu fod, er nas gallwn ei holrhain yn ddigon clir i allu nodi allan ei rhawd drwy yr ardaloedd mynyddig hyn. Mae Uuosog- rwydd yr hen gaerau o Gaerynarfon i Glynog yn profi fod y rhan yma o'r wlad, yn amser boreuol ei hanes, yn lle pwysig ; ac mae yn dra thebyg na ddar- fu i'r Rhufeiniaid esgeuluso ei thry- chwilio yn drwyadl am ei delidau mwn- awl a'i chyfoeth cyffredinol. Yr ydym yn tybio fod yr enw Talysarn yn aw- grymu fod yma gaingc-ffordd Rufeinig yn myned drwy yr ardal; a dengys ad- feilion^ mawrion yr hen dawdd-dai yn mhen isaf plwyf Clynog, y rhai y bernir ydynt o wneuthuriad Rhufeinig, y bu yma waith mawr mewn rhyw oes. Gellir olrhain gwely hen ffordd o'r adfeilion hyn, yma a thaw, hyd Garn Dolben- maen; ac ond odid i'r ffordd hon fyned yn mlaen hyd i Gwm-ystrad-y-Uyn, sef Cwmstrallyn. Mae ffordd ffrwyn rydd ttto trwy Fwlch Cwmstrallyn i Fedd- elert, yr hon, ar un llaw, sydd yn myned oddiarOerddwfr i Feddgelert; ac, ar y llaw arall, yn troi i lawr heibio i hen gaerfa gron i gyfeiriad Aberglaslyn. Yr oedd y ffordd hon yn osgoi perygìon croesi y Traethmawr ym Mhorth Treu- ddyn; a gellir casglu, oddiwrth enw y bryn a elwir Penygroes, ar ol esgyn o hen bont Aberglaslyn, fod yno groes- ffordd lle y croesai y ffordd o Gwmstra- llyn i ffordd Beddgelert. Celebt. êa\tl\ni\w. YSTYR YR ENW "Y GERDDI BLUOG." Syb,—Ni chafwyd etto eglarhad bodd- haol o ystyr "Y Gerddi Bluog," lle y tybir i Archddiacon Prys gael ei eni. Dyma ymgais i hollti'r gneuen. Sillebir yr enw yn dra gwallawg, sef Y Gerddi Bluog. 1. Tybiaf mai y Gaerddu ydyw, a'i fod wedi ei feddalhau yn ol arfer swydd Meirion, ac hyd dros afon Dyfi i fro Powys, fel hyn:—Y gâth—gêth; Uaeth— lleth; lodes fech. Gerllaw'r hen annedd- dy mae Moel y Gerddi, ynghyd a lliaws o enwau yn yr ardaí yn arwyddol o ddiffyn neu ymlid, ac heb anghofio Mur- iau'r Gwyddelod. Mae Gaerddu hefyd yn Eifionydd, yn agos i'r Gaerwen; ac nid pell oädiyno, ar goppa dwyreiniol yr Eifi, mae Tre'r Ceiri—Town of jorts— sef caerau, ceiri—Kerry ar gyffiniau Powys, ac yn y Werddon. Gan edrych ar gadarnfa hynafol yn swydd Antrim, a dim ond cuífor rhyngddi a'r Alban, gofynwyd i'r perchenog beth oedd ei henw; attebodâ yn bybyr, "Gâr Moyl." Mae Moylgrove yn Nyfed; ond sicrhaf fod mwy nag un Moel y Gaer yn Ngwynedd. 2. Ond beth am '«bluog ?" Mae gwall yma etto; canys "p" fuasai ar ôl " gerddi"—y lliosog o " gardd." Dyma fy nychymyg, sef " Gaerddu Buaîog "— bual (wild ox or buffalo). Ni fyddai nemawr enw anifail adnabyddus na fyddai yn ffurfio geiriau lleol. Nid nep- pell yn yr un plwyf mae Moel y Geifr, Sylwer fod Cwmbual islaw Carnedd y Filiast, goger Nant yr Afangcwn (Ffrangcon) agos i'r ddau Farchlyn, ac yn nghymydogaeth Afon y Gaseg, Nant yr Ychain, Carreg y Gath (mld cat.) Mae Moel yr Hydd tua Llyn Cwellyn. Adwaenaf un a welodd weddillion y cawr-hŷdd cynhanesol—-fossil elh, wedi eu cloddio yn Llanfair, ger Harlech, plwyf y Gaerddu Bualog; a chludodd ymaith gymmal o'i asgwrn cefn wrth gorn ei gyfrwy; ac i'r hen Amgeufa yn Nghaerynarfon yr anfonwyd ef. 3. Beth am y sill olaf, "og," neu '£ awg ?'' Terfyniad nodweddiadol ydyw, megis yn y Foel Goedog, â "chaer" arni, lled agos i'r Gaerddu. Os cywir yr enw, mae'n debygol naill mai llanerch goedwigol ydoedd, neu mai twr o goed oedd yn sefyll ar y foel neu grûg, megis eraill yn yr hen oesoedd, fel stochade, neu pah brodorion New Zealand y dydd- iau hyn. 4. Gofynir fe allai am engraifft o gyf- ryw drawsddodiad llythyrenau ag sydd pan droir bualog yn bluog. Nid rhaid myned yn mhellach na hen gwmwd Meirion a'i enw Ystum Aran; neu, yr un peth, Taran mewn rhai manau; yr hwn, er ystalm, a wyrdrowyd yn Estimaner. Ac am gyfnewidiau diweddarach, ieith- egwr adnabyddus a ddadleuai mai Bwlch Deheuwynt oedd man ar Hiraethog ger- llaw Craig yr Ychain, a Chreigiau Bleiddiaid, heb ystyried mai Bwlch Dyniewyd oedd yr enw yn Siarter Llywelyn ap Iorwerth i Fynachlog Con- wy, a.d. 1190, ac o hyny, 'rwy'n tybied, i lawr hyd heddyw. Nid yw Cwellyn, meddynt, ddim amgen na Caeuwchllyn. Nid wyf daer am fy esponiad uchod, ond yn unig "boed da hyn hyd oni chaffer ei well." Yspeyd Edmwnd Peys. Argraffioyd gan D, W. Daẁes & Co., Çaernarfon,