Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEN I N EN: Cjjlíjjgrahm Cmcöía*ifrûí. Rhif. 4.] HYDREF, 1884. [Cyf. II. RHAI O NODWEDDION NEILLDUOL Y GYMRAEG. Er nad y G-ymraeg, fe ddichon, oedd iaith Eden a'r cynddylifìaid, credwn ei bod yn bur hen : pa raor hen ni wyddis. Y mae hanes yn methu a'i holrhain i!w tharddiad : yr oll a all hanes dilys ac ymddiriedol ddywedyd am dani yw —" Yr oedd hi o'm blaen i." Wrth ddilyn ei theithi a'i neillduolion, cwrddir â phrofion diymwad o'i hynafiaeth. Mewn rhai pethau, y mae holl ieithuedd y byd yn dwyn tebygrwydd i'w güydd : mewn pethau ereill gwahaniaethant yn fawr. Mae y tebygrwydd rhyngddynt mor fawr fel y gellir tynu rheolau cymhwysiadol atynt oll, y naill fel y llall; ac mae llawer wedi cymeryd y gwaitho ysgrifenu grammadegau cyff'redinol (unwersdgrammurs), cymhwys- iadol at bob iaith, heb gau allan y Gyinraeg. Y mae i bob iaith eiriau sydd yn sefyll am bersonau, gwrthrychau, ac ansoddau ; geiriau a wasanaethant er ein galluogi i wneuthur haeriadau a mynegiadau am bersonau a gwrthryehau, ac i uno ansoddau gyda hwy; a geiriau i derfynu, grymuso. gwanhau a gwadu ansoddau, haeriadau a mynegiadau. Mae yr oll hefyd yn meddu ruyw ffyrdd i osod allan bersonau, rhifau, cenedl, a moddau, llywodraeth y naill air ar y llall, a'u perthynas i'w gilydd. Y mae yr oll o'r pethau hyn, a llawer o bethau ereill, yn perthyn i bob iaith fel eiddo cyffredin iddynt. Er hyny i gyd, y mae i bob iaith ei neillduolion a'i theithi gwahaniaethol. Nid yn unig arfera eiriau gwahanol am bethau a syniadau, ond mae eu ffyrdd o dreiglo geiriau, eu huno â'u gilydd yn frawddegau, i osod allan lywodraeth y naill air ar y llall, &c, yn gwahaniaethu yn ddirfawr : ac oddi yma y cyfyd yr anhawsdra penaf i gyfieithu o'r naill iaith i'r llall. Md digon yw deall meddwl yr hyn a gyfieithir, a meddu gwybodaeth gy wir o ystyr y geiriau yn y ddwy iaith, i wneuthur cyfieithydd da; y mae yn anhebgorol hefyd bod yn gwbl gyfarwydd o arddull (idiom) y ddwy iaith, ac yn enwedig yr iaith y cyfieithodd iddi. Gwybodaeth ddofn y cyfieithwyr o'r Saesonaeg a'r Gymraeg a'u galluogodd i roddi cyfieithiad mor ragorol o'r Ysgrythyrau aga feddwn yn yddw-y iaith. Mae yn gwbl eglur, oddiwrth y Bibl Cymraeg, fod y cyfieithwyr yn deall y Gyniraeg ; ac mae hyny yn wir hefyd am yr hen gyfìeithiad Saesonaeg. ün o'r cwynion penaf yn erbyn y cyfieithiad newydd Saesonaeg yw ei fod yn syrthio yn fyr yn ei arddull (idiom) o'i gymharu â'r hen yn y manau y gwyra oddiwrtho. Os ceir cyfieithiad Oymraeg newydd o'r Ysgrythyrau, dylid gofalu i ethol cyfieithwyr cwbl hyddysg yn arddull a nodweddion gwahaniaethol y Gyinraeg, yn gystal a dyfnddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol. Poenir m weithiau, wrth ddarllen ambell gyfieithiad o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, wrth ganfod y musgrellni anoddefol o osod y geiriau yn y cyfieithiad yn yr un drefn ag y safent yn y gwreiddiol, heb eu dwyn o dan ddeddfau iaith y brymau. Yn y cyfryw gyfieithiadau, mae yr arddull yn aros yn Seisnigaidd, er bod y geiriau yn Gymraeg. Siarad Saesonaeg mewn geiriau Cymraeg, neu wisgo iaith Hengist mewn hugan Gymreig, yw peth fel hyn, ac nid cyfieithu. Y niae i'r Gymraeg ei harddull a'i neillduolion gwahaniaethol; a nodi rhai o'r neillduolion hyn yw amcan yr ysgrif hon.