Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEN I N E N: CjDldjgratoiT Cmebladíjol. Rhif. 3.] GORPHENAF, 1884. [Cyf. II. Y TRA PHARCHEDIG THOMAS HENRY EDWARDS, DIWEDDAR DDEON BANGOR. 1. Ar daer gynimhelliad Golygydd y Geninen yr ydys yn cymineryd mewn llaw ysgrifenu byr goffa am y diweddar Ddeon Bangor. Nis gallwn wneyd cyíìawn- äer âg ef. Y mae bywyd a marwolaeth y Deon yn cysgodi drosom; ac am- gylchynir ni, ar bob llaw, gan deimladau drylliog, hiraethus gof, a ffrydiau galar, fel nas gellir gweled y gwrthrych yn eglur. Bhaid i amser gael ei briodol effaith o leddfu y teimladau, gwasgaru niwlion hiraeth, ac megys symmud y gwrthrych draw i'r unigedd ar ben ei hun, fel y mynydd yn y pell- der, cyn y gellir iawn bwyso a mesur y cymeriad. Y mae defnyddiau angen- rheidiol oywgraphiad teg o'r Deon etto yn wasgaredig; ac nis gellir eu cael ynghyd fe allai am amser lled faith; felly rhaid edrych ar hyn o ymgais fel erthygl newyddiadurol yn hytrach nac amlinelliad o hanes bywyd y Deon. G-all y bydd yn ddyddorol dweyd pwy oedd y Deon. Mab ydoedd i'r di- weddar Barch. William Edwards, Ficer Llangollen, yr hwn oedd un o'r lliaws dynion galluog a addysgwyd yr oes ddiweddaf yn hen Ysgol Bammtdegol Ystradmeurig. Yr oedd yn ysgolor sylweddol, fel y dywed y Sais; ac yn wr o athrylith gref, a theimlad o'r lledneisiaf. Pan gefais y mwynhad o'i adwaen, yr oedd, fel " ysgafn ŷd," yn barod i'r nef, tra yn addurn i'r ddaear. Ganwyd ei fab, y diweddar Ddeon, yn Llanymawddwy, sir Feirionydd, ym mis Medi, 1837. Yno y'i meithrinwyd yn blentyn, ac y dysgodd iaith y bryniau—iaith bryniau Powys, nid Eryri. Ceid tafodiaith Powys oddi ar ei wefusau, a gwelir olion o honi yn ei Esboniad. Y mae un engraifft yn ddigon. Defnyddia y gair tafod yn y rhyw fenywaidd,—"Y dafod hon ;" tra nas gẃyr preswylwyr Eryri am y fath arferiad, ac nas ceir yn y Beibl. Addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol West- minster, ar oí i'w dad osod i lawr y sylfaen. Ymddengys i mi mai nieddiannydd athrylith (genius) oedd yn yr ysgol, yn hytrach nag efrydydd Uafurus ac ym- ipddgar. Nid meistrolydd ei efrydiaeth oedd, ond meistrolid ef gan ei efryd- iaeth. Ai testyn ei efrydiaeth yn swyn a chyfaredd iddo, nes ei gadwyno dan ddylanwad gormodol a'i lethu. Felly bu raid iddo, tra yn yr ysgol, ac wedi hyny yn y Coleg, orphwys yn aml. * Bhedai ei hun i lawr. Gorlewyrchai dros ychydig i hanner diffoddi drachefn dan wendid iechyd. Bhanwyd ysgoloriaeth Powys, yn 1857, rhyngddo ef â Mr. Mcholson, diweddar Grymrawd o Goleg St. John, Caergrawnt. Etholwyd ef yn Ysgolor o Goleg yr Iesu yn 1857; a dod- wyd ef yn yr ail ddosbarth o'r Celfyddydau Cain (Second Class Classical Hon- ours in ModerationJ. Cyn myned yn mhell drachefn gorfu amo roddi heibio ei efrydiaeth ; ac nid ymgeisiodd am " Honours in Finals." Bu yr afiechyd hwnnwyn siomedigaeth fawr iddo. Ond gallwn fod yn sicr mai doeth oedd gwaith ei feddyg yn gwa- hardd iddo orweithio ei hun. Nid meddwl galluog i ddal Hawer mewn cof, a chasglu y trysor gwybodaeth eang ac amrywiol ag sydd angenrheidiol i sicrhau safle yn yr Ysgol Ddiweddol (Final SchoolsJ oedd gan y diweddar Ddeon, ond