Attribution
islwtn. 47 gaol y lle blaenaf yn meddwl y bardd pan yn cydio mewn testyn; ond y mae yn well genym gyf ansoddiad digynllun na chynllun difarddoniaeth. Addefwn mai hawdd fyddai chwalu llawer o gynyrchion Islwyn, wrth eu darllen yn unig i'r amcan hwnw. Nid oes un cyfansoddiad wedi ei gyhoeddi, hyd yn hyn, nas gellir ei dynu yn garnedd o adfeilion o ryw gyfeiriadau. Beirniadodd lawer ; a chydnabyddid ef yn un o'r beirniaid mwyaf gonest. Ond nid oedd yn ddiwendidau fel beirniad,—gwendidau, nid camweddau, a hyny yn codi o ddiffyg amynedd i groesi ambell ddiffaethwch sych y deuai i gyffyrddiad âg ef yn ei swydd; ac felly, byddai ei sylwadau yn fyrion, ac yn brin o'r addysg hono ellid ddysgwyl o gadeiriau barn. Clywsom ef yn dyweyd, lawer gwaith, ar bentwr o gyfansoddiadau—" Y mae yma lawer o dir coch nas gallaf wastraffu amser i fanylu arno." Er hyny, argyhoeddid ni o uniondeb ei egwyddor, a chysondeb ei ddyfarn- iad, yn ngwyneb ei holl wendidau beirniadol. Ni wnai gam â'i elyn, na ffafr â'i gyf aill. G-wyn fyd na byddai mwy o'r ysbryd hwn yn aros ar y fainc. Gwir y byddai rhai o berchenogion y "tir coch" yn cwyno weithiau, ond ffordd Islwyn i gael taw arnynt oedd tewi ei hun. Yr oedd y tawelwch a'r hunanfeddiant hwn yn ei wneyd yn eithriad i feirdd yn gyffredin. Pan yn cystadlu ei hun, ac yn ymwybodol o gam gwaradwyddus, fel yr Athraw Mawr Ei Hun, "yntau yn fud nid agorai ei enau." Gwelwyd rhai yn yrnladd drosto, pan yn cael ei sarnu gan feirdd heb fod cyfuwch â'i sawdl; ond ni wnai Islwyn gymaüat a " dal eu dillad." Mab tangnefedd ydoedd, a thangnefedd oedd ei arwyddair yn mhob cylch y troai ynddo. Bu yn olygydd barddoniaeth amryw gyhoeddiadau, megis Tr Arweinydd, T Olorian, TGwladgarwr (ar ol Caledfryn), a'r GardifTimes. Treuliodd ei ddyddiau i ben mewn unigedd tawel yn y gymydogaeth y ganwyd ef ynddi. Yr oedd ei serch wedi ymglymu am Fynyddislwyn a'r cylchoedd, fel nad oedd wiw i neb geisio ei symud i un lle arall. Y " Babell " oedd ei Jerusalem. Yno, fel yr awgrymwyd, y dygwyd ef i fyny, y dechreuodd bregethu, y parhäodd hyd y diwedd, ac y gorphwys oddiwrth ei lafur. Er iddo fod yn pregethu dros ugain mlynedd, ni fu yn fugail ar un eglwys neillduol. Md oedd ynddo fawr o elfenau bugail sefydlog. Yr oedd y pruddglwyfni ysbryd yr oedd mor dueddol iddo, yn ei anghymhwyso, i raddau *pell, i gyflawni dyledswyddau "bugailj" yn effeithiol. Profodd yr ysbryd hwn yn fagl iddo, lawer gwaith, yn ei gylch teithiol. Methai fyned i'w gyhoeddiadau mor aml, nes tynu gwg rhai cynulleidfäoedd; a byddai ambell gyhoeddwr, oddiar deimlad o siomedigaethau blaenorol, yn cyhoeddi— "Islwyn, os daw, fydd yma'r Sabboth nesaf." Rhai yn dyoddef oddiwrth yr un anhwyldeb, yn unig, aÃlent gydymdeimlo â'r dyoddefydd yn y cystudd ysbryd hwn. Heblaw hyny, yr oedd ei dueddiadau awenyddoà ciyfion i raddau yn anghymliwysder arall i'r cylch y cyfeiriwyd ato. Bydd y gwir fardd yn cael ei gymeryd i ffwrdd yn sydyn, ac yn ddiarwybod iddo ei hun, yn aml, i fröydd "hud a lledrith," yn ymgolli yn myd y drychfeddyliau, ac yn anghofio cymdeithas a phobpeth a berthyn iddi. Ofer cyfyngu ysbryd fel hwn o fewn cylch,—rhaid iddo gael yr hyn a alwai Islwyn ei hun, yn "drag'wyddol heol." Y mae cofgolofn hardd newydd gael ei gosod ar ei fedd, wedi ei chodi gan edmyg- wyr y bardd o bob parth o'r wlad. Y mae y golofn wedi ei gwneyd o granite o'r fath oreu, a medallion o'r bardd mewn òronze yn nghanol y gareg ; ac o dano, y cerfìad canlynol yn uaig— " ISLWTN. " Ganwyd EbrÃll 3, 1832. " Bu farw Tachwedd 20, 1878." Cymerir yn ganiataol na fydd angen i'r oesau a ddêl ofyn beth oedd Islwyn—y bydd ei enw a'i hanes yn ddigon adnabyddus mewn llenyddiaeth Gymreig, heb air o ganmoliaeth ar ei gareg fedd. Dyfeb. Y CWM YN Y MYNYDDOEDD. ] YE HENWE. Mwynhau hedd ac ymnoddi—gei, o hyd, j Aeaf henwr! gorifyny—i hwn Dangysgodau'rllethri: * [ Yw'r werdd ddôl; ac obry Lluest mêl tawel wyt ti ! Ei drem yn barhaus a dry', I wynfydedd hanfodi. . I Mal chwüiwr am lwch wely. Çaernarfon. Isaled.