Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GE N I N EN: Cghíjpafow €mùihtfyal. Rhif. 4.] HYDREF, 1886. [Cyf. IV. Y PARCHEDIG ROGER EDWARDS, D,D. 1. Nid llawer 0 ddynion yn y ganrif lion a lanwasant yn mysg ein cenedl le mwjr nag a lanwyd am oes faith gan "Roger Edwards, Wyddgrug." Yr oedd ei ddoniau mor amrywiol, y cylchoedd y tröai ynddynt mor Hiosog, ei ymroddiad i waith pob cylch mor rhyfeddol, a'i gymeriad moesol mor uchel, fel nad oedd y deyrnged gyffredinol o barch iddo ar ei farwolaeth ond yr hyn oedd berffaith naturiol a rhesymol. Yn mhob newyddiadur, Cymreig a Seisonig, agyhoeddir neu a ledaenir yn Nghymru, ac yn enwedig yn Ngogledd Cymru, talwyd gwar- ogaeth barchedig a theimladol i'w gymeriad a'i ddylanwad; ac mewn rhai papyrau 0 safle uchel yn Lloegr, yn enwedigy Nonconformist ancl Independent, ysgrifenwyd yn y modd mwyaf parchus am dano. Cydnabyddir yn rhwydd nad oedd yn Sir'Fflrat,yblynyddoedd diweddaf, ond un gŵr y gallesidei ystyried yn fwy ei ddylanwad nag ef, a hwnw yn neb llai na Mr. Gladstone; acyr oedd yn ddiau yn mysg y rhai uwchaf mewn parch a dylanwad am yr ugain a'r deng mlynedd ar hugain diweddaf yn y Dywysogaeth. Gyda'r lliaws yr ydym ninnau yn y modd parchusaf yn dymuno galw sylw ein darllenwyr at y gwaith mawr a wuaed ganddo, yn fwyaf arbenig gyda llen- yddiaeth Gymreig. Ni ddymunera 0 gwbl edrych arno â llygaid beirniadol. Dichon ei bod yn rhy gynar eto i geisio penderfynu ei le yn hanes llenyddiaeth ei wlad. Rhaid sefyll yn mhellach oddiwrtho cyn cael y fantais briodol at gytíawni y fath orchwyl. Yn y sylwadau canlynol, pa fodd bynag, y cwbl a amcenir fydd cofnodi ychydig o'r ffeithiau y rhaid eu cymeryd i ystyriaeth gan bwy bynag a ymgymero â'r gorchwyl hwn mewn adeg ddyfodol. A gadewir i'r nodiadau gymeryd gwedd fywgraffyddol yn hytrach na beirniadol. Yn y Bala, ar y 26ain o Ionawr, 1811, y ganwyd "Roger Edwards." Pobl barchus oedd ei rieni. Cyn ei fod ef ond ychydig fisoedd o oedran symudasant i fyw i Ddolg^llau; ac edrychai R. E. bob amser arno ei hun fel un 0 " blant Dolgellau." Bu ei dad farw Ionawr lOfed, 1831, yn 52 mlwydd oed. Nis gallwn fanylu ar hanes ei febyd a'i ìeuengctid; ond y mae yn amlwg y rhodd- wyd iddo fanteision addysg rhagorach na'r cyffredin yn y dyddiau hyny. Bu dan addysg mewn amryw fanau. Yr oedd yn yr ysgol yn Llynlleifiad yn 1827; a bu hefyd am ryw yspaid yn ysgol y Parchedig John Hughes, yn Ngwrecsam. Bu yn ceisio hwylio at "drin y byd" am beth amser; ond nid ymddengys fod anianawd masnachwr ynddo 0 gwbl. Yn 1830 dechreuodd gadw tipyn o ysgol yn Nolgellau; a bu gyda'r gorchwyl hwn am yn agos i dair blynedd. Yn y Goleuad, Gorphenaf 24ain, ymddangosodd llythyr tra dyddorol gan un o'i ysgolheigion—Mr. Owen Rees, Dolgellau—yn cynwys rhai adgofion am yr ysgol hono. Ac y mae yn hawdd gweled oddi wrthynt fod yr "hen oruchwyliaeth " ar yr ysgolion dyddiol yn dechreu myned heibio; a bod R. E. yn dwyn delw ei hen athraw o Wrecsam i fesur helaeth yn ei ymwneyd â'i ysgolheigion. Yn niwedd 1830 y dechreuodd bregethu, cyn ei fod yn llawn ugain mlwydd oed. Oddiwrth nodiad mewn cof-lyfr, dỳwed ef ei hun mai nos Sabboth, y 5ed o Ragfyr, 0 flaen y Parchedig Richard Jones, o'r Wern, yn Nol- gellau, y pregethodd ei bregeth gyntaf, oddiwrth Esaiah xxvi. 4—" Ymddiried- wch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol." Clywsom ef yn adrodd ein hunain mai y Parchedig Richard