Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENI NEN: Rhif. 3.] GORPHENAF, 1886. [Cyf. IV. Y PARCH. WILLIAM DAVIES, D.D. 1. Y màe i wrthddrych yr ysgrif hon le arulwg yn mhlith goreugwyr y Dywysog- aeth. Er iddo gau ei lygaid ar y byd hwn er's dros ddeng mlynedd, perthyna iddo anfarwoldeb. Mae ei enw yn aros mewn coffadwriaeth barchus, a chy nyrchion ei athrybth yn "drysor gwell ac un parhaus " yn nghadw gan y genedl. Yn briodol y gellir dyweyd am danynt— "Deil ei waith tra bo'r iaith rydd A Gwalia wrth eu gilydd." Yr oedd yn gymeriad amlochrog. Hawliai le parchus fel ysgolor yn mhlith dysgedigion y genedl, er y rhaid ei restru i raddau helaeth yn mMith y dosbarth anrhydeddus hwnw a adwaenir fel hunan-ddysgwyr. Perchenogai athrylith gref—y peth byw, annarnodol hwnw sydd yn llewyrchu ac yn tanio nes cael e weled a'i deimlo heb neu gyda dysgyblaeth addysg. Gwisgwyd ef gan areith- yddiaeth â rhai o'i dillad prydferthaf, ac ymddiriedodd iddo rai o'i thlysau dy8gieiriaf. Trwyddedwyd ef i deml eang llenyddiaeth, a gwnaeth ei hun yn gartrefol yn ei "llawer trigfanau." Ni bu yr awen yn brin yn ei chyfraniad- au iddo. Perchenogai gyfran helaeth o'i hyspryd, er na thalodd gymaint o warogaeth i'w deddfau a'i rheolau, ac na pharchai lawer ar gyffion Dafydd ap Edmwnt. Ond yn fwy na'r cwbl, derbyniodd eneiniad oddiwrth y "santaidd. hwnw" a'i cymhwysodd i fod yn efengylydd Uwyddianus ac yn fugail fFyddlon yn eglwys Iesu Grist. Am ddeuddeng mlynedd ar hugain bu yn un o addurn- iadau penaf yr enwad; ac wrth lewyrchu yn nghanol y llwyth y perthynai yn flaenaf a phenaf iddo, gwasgarodd oleuni a gwres a gyrhaeddodd wahanol lwythau Israel Duw yn Nghymru, nes cael ei gydnabod a'i hawlio fel perchen- ogaeth genedlaethol. Y rhai agosaf ato oedd yn meddu cyfleusdra i'w adnabod yn yr aml a'r amryfal ragoriaethau a berthynai iddo ; a'r amcan yn y llinellau hyn fydd ei osod ger bron y genedl er ei adnabod yn well a mwy cyffredinol— cael yr oll o'r dyn ger bron yr oll o'r genedl. Y mae amrai ereill a allasent dynu darlun perffeithiach, a'i osodallan i fwy o fantais; ond hyd nes i'r cyfryw dderbyn ysprydoliaeth at y gwaith, rhaid bodäloni ar y darlun anmherffaith hwn. Ni wneir cais at gyflawni gwaith y bywgraphydd. Mae ei hanes yn gymhleth- edig â hanes ei enwad; ac yn y cylch hwnw y bydd ei fywgraphiad yn ei le ei hun. Ac wedi y cwbl, rhaid gosod i lawr brif linellau ei fywyd, er gwell mantais i adnabod y dyn. Ehaid cael y darlun mewn perthynas ffafriol â'r goleuni er ei weled yr hyn ydyw; felly hefyd y rhaid cael dyn yn y cysylltiadau a'r amgylch- iadau perthynol iddo, er cael syniadau cywir am äano. Un o'r ymofyniadau mwyaf naturiol i bawb gyda phob cymeriad cyhoeddus ydyw—"O ba le y daethostF" Mae rhyw gywreinrwydd neu chwilfrydedd yn perthyn i'n natur sydd yn peri anesmwythder o hyd nes cael gwybod pwy? 0 ba le? Dyma holiadau y plant ar yr aelwyd yn achos yr ymwelydd dyeithr; ac y maent yn ymholiadau mytiwes plant mawr fel plant bach, ond fel y mae moes- yddiaeth gymdeithasol yn atal ac yn cuddio,