Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFFRYN CYNON, 213 meddiant disgynyddion y rhai y mae yn bresemiol. Dywedir ei fod yn cadw o bedwar ugain 1 gant o ysgolheigion bob amser, ei fod ef ei hun, trwy gyn- northwy dwy neu dair o ferched, yn darparu bwyd iddynt oll; ond fod hwnw yn aml o nodwedd bur anfoddhaol. Y pwnc mawr gan Reynallt oedd gwneyd arian, er ei fod yn dra llwyddianus i yru Groeg a Lladin i bengoglau ei ysgol- heigion. Mi a glywais hen wraig yn Mhenderyn yn dweyd mai y " bill of fare " gan Reynallt, fynychaf, oedd, " Groeg, Lladin, a digon o gawl! " Un o gyfansoddiadau caethfydrol goreu Gwilym Harri Benderyn oedd awdl goffad- wriaethol i Reynallt Davies; ac yr oeddynt yn gyfeillion mawr, a hyny er yn ieuanc. Un rhagoriaeth ynddo yn ngolwg y bardd oedd iddo gadw éi Gymraeg yn lled ddilwgr.hyd y diwedd. Gwr enwog arall a anwyd, nid yn mhell o Lygad Cynon, oedd y cerddor galluog William Morgan (Bili Sion Morgan) o Rymni, ac wedi hyny o Aberdàr. Y mae tôn o'i waith yn Nghaniadau Seion, gan R. Mills. Efe oedd arweinydd hen Gôr Undebol Rhymni; yr hwn ennillodd y wobr gyntaf ennillwyd am ganu corawl mewn eisteddfod yn Nghymru, sef oedd hyny, yn un o eistedd- fodau cyntaf y Fenni. Efe hefyd oedd arweinydd cyntaf Côr Undebol Aberdâr ; cor wedi hyny gyrhaeddodd y fath enwogrwydd dan arweiniad Caradog, o anfarwol goffadwriaeth. Cododd y cor wyddfa ar ei fedd ar eu trael eu hunain. Meddai ddawn anarferol iawn i wneyd i ereill ganu. Yr oedd efe hefyd yn gryn lawer o fardd. Gwelais gân o'i waith i'w le genedigol ag na. ddylasai fod cywilydd ar awdwr " Ysgoldy Llanrwst"—Ieuan Glan Geir- ionydd—weled ei enw wrthi. Gwenllian Morgan, o'r Baili Helyg, sydd hefyd yn un o enwogion Cwm Cadlan. Yn Hydref, 1886, aeth allan wys a gwahawdd at holl dyddyn- ferched y byd pen baladr i ddyfod i " Eisteddfod Gorddi " a gwneyd ymenyn, yn yr Agricultural Hall, Llundain. Gelwid yr eisteddfod hono yn " Inter- national Butter-maìHng Contest." Cyfieithiodd rhyw Gymro y geiriau hyn yn " gystadleuaeth ymenyn-wneuthuriaeth rhyngwladwriaethol;" ac yr oedd " John Jones " y Gweithiwr Cymreig yn cynghori y Llywodraeth i dynu ei weithdy i lawr ar unwaith, fel na fuasai perygl iddo bechu yn y cyfeiriad hwnw byth mwy! Yr oedd deunaw o foneddigesau wedi anfon i mewn eu henwau; ond pan ädaeth yr eisteddfod nid oedd ond pedair ar ddeg yn foddlon dangos eu dawn a'u galìu. Rhoddwyd ugain pwys o hufen i bob boneddiges, ac yr oedd yr ugain pwys tua dau alwyn o fesur; a gosodai pob boneddiges ei dogn yn ei byddeu ei hun. " Byddeu droi " oedd gan bob un o honynt, wrth gwrs, ac nid yr hen fyddeu fu yn poeni Huw ac Edward Morus gynt pan wnaethant yr englynion— " Trwst â gordd, trystio dugell;" "Dip-dap, lip-lap, gip-gap gwpan," &c. Y fath gyfriewidiadau rhyfeddol ydynt wedi eu dwyn i fewn i'r triniaethau amaethyddol er yr adeg hono !—peirianau i wneyd pobpeth braidd! Mae yn debyg fod rhai o'r Uaeth-ferched rhagsoniedig yn Liundain yn troi eu byddeuau yn chwyrn rhyfeddol ac ereill yn gwneyd hyny yn bur araf. Mae yn bossibl fod cynhyrfiad y foment yn gwneyd i rai o honynt ymwylltio. Ni ddywed hanesiaeth pa fodd y gwnai Gwenllian; ond tybiaf, oddi- wrth adnabyddiaeth bersonol o honi, na fedrai amgylchiadau cyffredin ei chynhyrfu—meddai wynebwedd yr arwres. Gwnaeth y lasbryf wylltaf o honynt ei hymenyn m'ewn deunaw mynud, a'r hen ysgyfarnog fwyaf araf ei heiddo hithau mewn awr a dau fynud ar bymtheg. Y swm mwyaf o ymenyn a wnawd o'r ugain pwys hufen oedd 7^ pwys; a'r swm lleiaf oedd ô± pwys. Y diwedd fu, i'r beirniaid ddyfarnu y wobr i Gwenllian Morgan, merch hynai Jenkin Morgan, o'r Beili Helyg, Penderyn, a hyny am " ragoroldeb cyffred- inol." Cafodd Saesnes o'r enw Mrs. Holmes, o Bromley, yr ail wobr, a Gwyddeles o'r enw Mary Conelly, y drydedd. Y dydd Gwener canlynol ceis- iwyd gan Gwen fyned ger bron Arglwydd Faer Llundain i wneyd ymenyn, yr hyn a wnaeth i berffaith foddlonrwýdd. Ni ddywedir iddi ddysgu y gel- fyddyd i'r Maer; ond cyn iddi ymadael â'r Brif Ddinas cafodd amryw geis- iadau am ei gwasanaeth. Cafodd gais neillduol o Ynys Jersey, i tyned ynoi ddysgu merched yr ynys i wneyd ymenyn ; a bu yno yn fawr ei pharch a ì gwohr. Daeth yn oí i wlad ei genèdigaeth ; priododd (â Sais, fel y c ywais), ac aeth ymaith i America, Ue y mae hi a'i phriod yn amaethu eu tyddyn eu hunain.