Skip to main content

46 CENÍNEN GẀYL DEWÎ. brysuro y diwedd. Yn mis Mai diweddaf derbyniodd y newydd am farwolaeth ei ewythr dall, Jolm Miles; ae effeithiodd hyny gymmaint amo fel y dywedir na wel- wyd gwên ar ei wyneb mwyach. Ond er ei holl brudd-der glynodd wrth ei hoff waith yn ffyddlon hyd y diwedd. Un o gynyrehion olaf yr athrylith ddysglaer a'r Uaw fedrus oedd y eynllun o gofadail genedlaethol i Llewelyn ein Llyw Olaf, a arddangosid yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 1897 : a phan ar ganol cerfio penddelw o Syr Lewis Morris y Bardd, syrthiodd y cýn o'r llaw gelfydd na ddaw ei chyfaredd byth yn ol i orpheh y gwaith. Bu farw Medi 8fed, 1897, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd; a chladdwyd ef ynghladdfa Morden, rhyw saith milldir allan i'r wlad o Lundain, mewn llecyn tawel ynghanol teleidion Natur, y rhai a gerid ganddo mor angerddol. Deallwn fod ei gyfeillion a'i edmygwyr yn bwriadu gosod cofadail deilwng o'i athrylith bur uwchben ei argel wely. Fel cerflunydd, yr oedd Milo Griífith yn un o dalentau disgleiriaf y ganrif, ac felly yn anrhydedd i'r wlad a'i magodd; a medrai llawer un, gyda dim ond degwm ei dalent ef, gadw ei enw lawer mwy o fìaen y cyhoedd nag efe. Yr oedd mor eithafol o wylaidd a diymhongar, mor amddifad o ysbryd ymwthio, ac mor anfoddlon i gael ei wthio gan eraill, fel na chafodd y byd fawr o fantais i'w weled a'i adnabod ; ond ni ellid myned yn agos ato heb ei anwylo a'i edmygu. Nid ae th i' w fedd yu y flwyddyn 1897 yr un yn meddu ar gymeriad mwy pur a gloyw, a chalon fwy tyner a gonest, na James Milo Griffith. John Lewis. Libamis, Sir Frycheiniog. MR. T. LEWIS, Y CYN-A.S. DROS FON. Gloew ynad a myg lenor—fu, yn gefn I'w gu wlad, a blaenor Llawn o waith yn ngwinllan Ior,— Ac angel yn mhob Cyngor. R. M0N WlLLIAMS. YMSON UWCHBEDDCLWYDWYSON. Clowyd isod Clwydwyson,—yr hoif fardd A'r hyfforddwr tirion, A'r Blaenor llawn rhagoriou A loewai sêl eglwys Ion. E. Y PARCH. R. D. ROBERTS, LLWYN- HENDY. Oedd was gwyl, hygar, heb ddysg colegau, Waddolodd Anian âg haeddol ddoniau ; Hwn, â dylanwad ei hyawdl enau, A weiniai fywyd i'u cyinanfüau ; Nodi'n wir wnai'i dân-eiriau—mai gras Ion Ddenodd ei galon, dduwinydd golau ! Trealaw. E. D. Lloyd. ALAWYDD O LYWEL. Yb addien fardd awen fêl,—y llenor Llawn,—y cerddor uchel,— Ië', a'r sant mawr ei sel, Oedd Alawydd o Lywel. Meiöant. CAEADOG. Ganwyd Griffith Rhys Jones (bu agos i ni ddweyd—" Ganwyd Caradog ") yn y j " Rose & Crown," Trecynon, Aberdâr, ar ! Rag. yr 21ain, yn y flwyddyn 1834. | Griffith oedd yr enw roddodd ei rieni | iddo, " Caradog " oedd yr enw roddodd ei | wlad a'i genedl iddo; ac y mae yr enw I Caradog mor adnabyddus ac mor gynefin | ac anwyl i ni fel y bu agos iawn i ni | ddweyd—'' Ganwyd Caradog." Dywedir \ fod y bardd yn cael ei eni, ac nid ei wneyd; | ond cael ei wneyd, neu ynte wneyd ei | hun, wnaeth Caradog; ac y mae dyn all wneyd ei hun yn Caradog — yn flaenor câd, neu flaenor cenedl, neu flaenor cân, yn werth son am dano ; mewn gwirionedd, nid oes diolch i ni son am dano, y mae wedi gwneyd son am ei ben ei hun. Nid ydym yn gwybod am un dyn Y'nghymru yn y rnan hon o'r ganrif wedi gwneyd ei enw yn fwy cyffredinol adnabyddus na Caradog. Dichon fod guyneb llawer unyn fwy adnabyddus, am fod mwy o " cheek " ganddo, chwedl " Will Bryan " ; ond, yn wir, y mae yn amheus genym a wnaeth neb o'i gydoeswyr ei enw yn fwy ad- nabyddusnag y gwnaeth Caradog y bediccr- ydd yanrìf ar bymiheg ei enw. TEECYNON. Nid oedd Trecynon y pryd hwnw yr hyn ydyw heddyw ; ond yno yr oedd hefyd, ar gẁr Hirwaun Wrgant, rhwng mj^iydd Merthyi- a mynyddoedd y Dâr a'r Bhondda, fel rhyw gydymaith pentrefol i'r lle mwy uchelgeisiol ac adnabyddus a ad- nabyddid y'mhell ac agos fel Aberdâr. Yr oedd y Cynon yno, a'i gwyneb yn fwy disglaer a'i thôn yn fwy swynol nag ydyw heddyw; a bu y bachgen "Griff." yn edrych yn ei gwyneb ac yn gwrando ar ei llais lawer gwaith, ac yn derbyn ei wersi cyntaf mewn miwsig, ar lan y ffrwd ar dòn Hirwaun Wrgant. Er nad oedd Tre- cynon y pryd hwnw yr hyn ydyw yn awr, eto, i gyd, yr oedd yn rhan o Abeidâr ; ac yr oedd Aberdâr i chwareu rhan bwysig ja nadblygiad cerddoriaeth Y'nghymru. Nid oedd Trecynon, yr adeg hon, ond ychydig resi unffurf o dai gweithwyr a dau neu dri o dafarndai, a'r "Hen Dý Cwrdd " ac un neu ddau eraill o leoedd addoli; ond pan oedd Griffith eto yn fachgen dechreuodd Trecynon ddangos ysbryd cyhoeddus mewn llenyddiaeth a chân yn y gyfres eisteddfodau a elwid " Eisteddfodau y Carw Coch," y rhai fuont yn fywiog a llwyddianus am flynyddau, ac yn y rhai y dadblygwyd cryn lawer o dalentau, ac yn eu pfith dalentau y cerddor ieuanc " Griff. o'r Crown." Nid oedd y Parc, nac Ysgol y Comin, na'r Ysgol Ganolraddol, yno y pryd hwnw ; ond yr oedd ysbryd cân a barddoni yno, a'r " Hen Garw Coch " yn ei borthi a'i feithrin; ac nis gŵyr neb ddyled Trecynon, ac Aberdâr, a Mor- ganwg, a Chymru, i gyfarfodydd y " Carw Coch " a'u cyffelyb, cyfarfodydd llenyddol a cherddorol pentrefi fel hyn, i ddadblygu talentau eu meibion a'u merched.