Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cplrfcgratott Cetteìrlaetfcol. Rhif. 2.] EBRILL, 1893. [Cyf. XI. CALFIN FEL ESBONIWE. i. Ymddengys fod nifer mawr o bobl yn ein hoes ni yn cymeryd yn ganiataol fod dyddiau Calfiniaeth wedi eu rhifo, neu, yn fwy cywir, wedi myned heibio er's talm; ac na cheir weithian yn ei chofleidio ond ambell un, yma ac acw, o feddwl cyfyng a digynnydd ; ac yn glynu wrthi oddiar ragfarn dall, am mai Calfiniaid pybyr oedd y rhai enwog gynt a fawrygid gan ei dadau a'i deidiau. Coleddir y cyfryw syniad am Galfiniaeth yn benaf gan ddynion ieuainc bywiog o naws lenorol, nad yw yn bosibl eu rhestru yn mysg efrydwyr duwinyddol, a'r rhai y mae gyrfaoedd meddwl crefyddol yr oesau a aethant heibio yn gwbl anhysbys iddynt. Yn wir, nis gellir dyweyd ddarfod iddynt erioed astudio Calfiniaeth. Ni wyddant nemor am Galfin ei hun ; yn unig hwy a glywsant am ryw drafod- aeth fu rhyngddo â rhywun o'r enw Michael Serretus ; a'r oll a wyddant am ei gyfundraeth ydyw ei bod yn rhoddi lle mawr i ryw " horrible decree." Ond gwyddant fod difriaeth o Galfiniaeth yn un o ffasiynau meddyliol yr oes. Gwelsant gyfeiriadau sarhaus at gyfundraeth y diwygiwr enwog mewn rhai o'n cyhoeddiadau cyfnodol. Dichon y disgynodd rhai o ruadau llewod ieuainc y Daily Telegraph ar eu clustiau; neu y darllenasant fod pregethwr hoenus yn Llynlleifiad o'r enw Aked wedi cystal a melldithio y gyfundraeth yn enw yr Arglwydd. Barnant, gan hyny, y rhaid fod y credo yn gyfeiliornus; o leiaf, nad yw yn unol âg ysbryd yr oes hon ; ac mai un o nodau y diwylliant cenedl- aethol a gyrhaedda ei bwynt uchaf tua diwedd y ganrif nesaf ydyw ymddattod yn Uwyr oddiwrth yr hen olygiadau Calfinaidd a goleddid gan eu hynafiaid. Barnant fod cyfundraeth sydd yn tynnu at dri chant oed yn sicr o fod yn rhy hen i ni yn awr: pe dywedid wrthynt ei bod can hened ag Awstin yn y bummed ganrif, ymgroesent mewn dychryn rhagddi. Pe dangosid iddynt ei bod, ar y cyfan, yn sylfaenedig ar athrawiaeth yr apostol Paul, byddent efallai mewn gradd o betrusder, hyd oni chofient nad oedd dyfeisiau y bedwaredd gannf ar bymtheg nac athrawiaeth Evolution o fewn cylch ei wybodaeth ef. Nid ein hamcan o gwbl yn yr erthygl hon ydyw cyfodi attegion o dan yr adeilwaith a dybir sydd yn gogwyddo ac yn debyg o syrthio. Pell ydym ni o gadwyno ein ffydd wrth ddysgeidiaeth neb dyn pwy bynag; ac nid parod ydym 1 alw neb yn Eabbi, gan ymostwng yn wasaidd i'w ddyfarmadau. Ni thybiasom erioed fod Calfin yn arweinydd anffaeledig. Nid anhawdd ì'r beirniad duwin- yddol manylgraff ydyw canfod eithafrwydd yn ei syniadau yn y naül gyfemad neu y llall,—gormodedd ar »n llaw, a diffyg ar y Uaw arall; er y rhaid 1 bob cyfryw feirniad gydnabod ei fod yn un o'r meddylwyr mwyaf pwyllus a gwagelog. Nid yw yr Insttíutio yn llyfr perffaith; er i'w awdwr gymeryd blynyddoedd 1 w bei-ffeithio. Dichon fod diffyg ei gyfundraeth (neu ei gormodedd yn hytrach) yn cyfodi oddiar yr arbenigrwydd eithafol a ddyry ynddi ì'r drychfeddwl o ben- arglwyddiaeth, a bod llwyredd cydymdeimlad yr awdwr â Duw a 1 hawb.au yn cuddio gofynion a dyheadau ysbryd dyn yn ormodol o'i olwg. Duw oU yn oü, a dyn yn ddim, ydyw nod-angen ei gyfundraeth. Yr ydym hefyd yn cono mai ofer ydyw disgwyl y gall unrhy w gyfundraeth o ffurfiad meddwl dyn^ er i hwnw frwi J~ ~--------5„ S~Z„* m™r>r^A i mo-am rinll no-wíMÎdion ewuioneddDuw. Dy gyfundraeth neb dyn. Tra yr ymgoUa y cyntaf o'n golwg yn yr eangdc derfyn, disgvna yr olaf yn hylaw o fewn cylch em canfyddiad an dirnadaeth, oblegid os yw yn haeddu ei galw yn gyfundraeth o gwbl, y mae yrl rhaid fod ex hoU ranau yn gyson, ac yn ymasio â'u gilydd: ond mewn trefn iddi fod felly, mae yn amlwg fod yn rhaid ih meddwl a'i ffurfiodd gadw ei olwg yn llawer mwy