Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cpirögraton Cmẃlaetfcol. Rhif. 3.] GORPHENAF, 1892.. [Cyf. X. WILLIAM CAEEY, Y CENADWE. <tAKby enwog, wronol!—drwy asbri Dewr ysbryd cenhadol Hyderai'n Nuw'n ddidroi'n ol— Ddyn o ffydd anniffoddol. Drwy ei hynod wroniaetb—daw y byd 0 bydew paganiaeth: Ac ni edy'r Genhadaetb—in' beidio Dyrchu'n mawl iddo drwy ei Chan- mlwyddiaeth.—Meioant. Nid enw dieithr i ddarllenwyr Y Geninen yw yr enw synil uchod; ond diclion fod ei waith i raddau yn anhysbys i ran luosog; a diameu genyf nad blin gan y mwyaf cyfarwydd â'i hanes fydd ychydig eiriau am dano, yn enwedig yn awr pan y dethlir canmlwyddiaeth y Genadaeth i'r hon y bu efe yn benaf syìfaenydd ac yn brif addurn. Fel y mae yn ddigon hysbys, fe wneir ymdrech ganmoladwy gan Fedyddwyr Prydain i ddathlu mewn modd teilwng ganmlwyddiant eu Cymdeithas Genadol Dramor, y fiwyddyn hon. Amcenir codi cyllid blynyddol y gymdeithas i 100,000p.; ac ymdrechir casglu gyda hyny gan' mil arall, er mwyn tori allan waith a thir newydd i'r gymdeithas, ac ychwanegu yn fawr at nifer ei chenadon. Yn yr ymdrech hon, y mae yn amlwg nad yw Bedyddwyr Cymru am fod yn ol i'w brodyr yn Lloegr. Yn sicr, y mae yn arwyddo yn dda am Gymru pan welir fel y mae em cenedl yn dyfod allan mewn haelioni yn mhlaid lledaenu efengyl gogoniant y bendigedig I)duw yn mhlith y paganiaid. Y mae yr hyn sydd wedi ei wneyd yn ddiweddar gan y Methodistiaid Calfìnaidd gyda'u Cenadaeth Dramor yn beth sydd yn adlewyrchu anrhydedd ar ein cenedl, gyda'i fod hefyd yn " arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw." - Ni a obeithiwn nad yw Bedyddwyr Cymru yn myned i wneyd yn llai teilẅng, yn ol eu gallu, tuag at yr un amcan gogoneddus. I William Carey y perthyn yr anrhydedd o roddi cychwyniad i Genadaeth Dramor y Bedyddwyr, a thrwy hyny yr anrhydedd hefyd o fod yn gychwynydd yr holl genadaethau efengylaidd diweddar. Ni olygwn ddywedyd mai efe a îeddyliodd gyntaf am gludo y Newyddion Da i'r pagan. Nid drychfeddwl newydd iddo ef na neb o'i gydoeswyr oedd myned a gair y bywyd i baganiaid; yr oedd hwn mor hen a chomisiwn ein Harglwydd, "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur, &c." Nid efe oedd y cyntaf i feddwl am fyned a'r Efengyl i gyraedd brodorion India. D}nvedir ddarfod i un Mr. Grant, yr hwn oedd Eglwyswr, ac yn byw yn India, dynu allan gynlluni efengyleiddio y wlad fawrhono, ac iddo ddwyn ei gynllun ger bron awdurdodau Eglwysig y wlad hon; eithr aros yn gynllun ar bapyr, ac yn "llythyren farw," a wnaeth. Ond nid rhywbeth ar bapyi*, nac "mewngair," oedd hi gyda Carey, ond "mewn gweithred a gwirionedd." Yr oedd y drychfeddwl iddo ef yn un ymarferol, ac heblaw hyny yn ysbryd bywyd o'i fewn; yr oedd "yn dân wedi ei gau o fewn ei esgjrrn; blinai yn ymattal, ac nie gallai beidio." Nid oedd lonyddwch iddo, ac ni adewai lonyddwch i neb o'i frodyr, gyda'r mater mawr hwn. Pan yn dysgu daearyddiaeth oddiar fap o'i wneuthuriad ei hun i'r ychydìg blant oedd ganddo yn ei ysgol, nis gallasai ymattal heb ddangos i'r plant mor ddu a thywyll oedd cyflwrybyd : "Paganiaid," meddai, "syddfanyma, a phaganiaid yma, acyma, ac yma;" ac ni allai ddal heb wylo wrth son am danynt. Y mae yr olwg geir arno yr adeg hon ar ei fywyd yn dangos fod dyn wedi ei gael bellach a fedrai dori'r garw, ac anturio er mwyn ei Geidwad ac er mwyn eneidiau paganiaid byd. Ond pa le mae y bobl a'i cynorthwvant; oblegyd tlawd yw efe, ac o "deulu tlawd yn Israel ?" Wel, er tyloted ỳw ef a hwythau, y mae y gwaith i gael ei gychwyn. Os yw y mwnglawdd, ys dywedai Andrew Fuller, yn ddwfn, mor ddwfn a chanol-bwynt y ddaear; y mae un wedi ei gael a anturia i'r dyfnder, ao y mae rhai iV oael hefyd a ddaliajit yn dỳn yn y rhafî. '