Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: CylrögraUm Ceneìrlaetftol. Rhif. 1.] IONAWR, 1892. [Cyf. X. PRIFYSGOL I GYMRU. Gall y rhai hyny ohonom ydynt yn ooüo 30 neu 40 rnlynedd yn ol ddeall a gwerthfawrogi y camrau y mae addysg wedi ei wneyd yn y Dywysogaeth. Yr adeg hono yr oedd y inwyafrif o'r Cymry ieuainc wedi eu cau allan, i bob pwrpas ymarferol, 6 ragorfreintiau addysgol y prifysgolion. Yr oedd cost addysg yn Bhydychain neu Gaergrawnt ynddo ei hun yn rhwystr anorfod, ac yr oedd pellder y lleoedd hyny o bob partìi o'r Dywysogaeth, mewn adeg pan yr oedd cyfundrefn y rheilffyrdd eto heb ei dadblygu, yn ychwanegiad difrifol at y gost. Ond y rhwystr penaf ar ffordd addysg athrofaol ein dynion ieuainc oedd anghymwysder na symudwyd ymaith hyd o fewn dwy flynedd ar hugain yn ol. Yn yr adeg y cyfeiriwn ati yr oedd y prifysgolion Seisnig yn ymarferol wedi eu cau i bob dyn ieuanc nad oedd yn aelod o Eglwys Loegr. Y fath gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn ein gwlad yn y cyfeiriad yma! Ymae genym yn awr dri choleg, a phob^in ohonynt wedi ei leoli mewn canol- fan cyfieus, lle y ca bechgyn a merched ieuainc addysg ragorol am bris rhesymol, a drysau y rhai ni cheuir gan unrhyw brawf duwinyddol. Barnai rhai ein bod yn " rhoddi y càr o flaen y ceffyl" wrth seí'ydlu colegau heb wella yr ysgolion oedd i'w cyflenwi â myfyrwyr, ac y byddai y colegau hyn yn sychu i fyny yn lled fuan fel llyn heb afonydd a ffrydiau i gario dwfr iddo; ond nid yw y prophwydoliaethau hyn wedi eu cyflawni. Diolch yn benaf i'r symbyliad a roddwyd i addysg ganolradd yn Nghymru gan y Ddirprwyaeth Adranol y mae enw Henry Richard mewn cysyllùad mor anrhydeddus â hi, ac i ddarpar- iadau y Ddeddf Addysg Ganolradd. Y mae yr hen ysgolion gramadegol wedi eu gwella yn ddirfawr, ysgolion newydd wedi eu hadeiladu; ac ymhen ychydig o flynyddoedd fe fjTdd Cymru, y mae lle i obeithio, wedi ei gorchuddio â moddion addysg ganolradd teilwng o'r tri choleg y mae ìnor falch ohonynt. Ond ymae y rhan bwysicaf o'r gwaith addysgol yn aros eto i'w gyflawni.. Y mae genjrm eto i osod y maen clo yn y bwa. Nid yw colegau heb brifj'sgol ganolog ond megis planedau heb haul i droi o'i gwmpas. Tuedd sydd ynddynt i hedeg i ffwrdd i'r gwagle, i golli eu cydbwysedd. Ar rai ystyriaethau, íe ddichon mai mantais yw fod j>ob un o'r tri choleg yn dadblygu nodweddion o'i eiddo ei hun; ond y mae eisoes le i ofni fod hyn yn cael ei gario yn rhy bell, ac fod sefydlu prifysgol, allai fod yn foddion i'w tynu yn nes a'u dwyn i gyffyrdd- iad â'u gilydd, nid yn unig yn ddymunol, ond hefyd yn angenrheidiol. O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw'n beth i synu ato fod y mwyaf gweithgar a gwlùdgarol yn ein mysg yn deisyfu cael prifysgol, ac fod y drychfeddwl hwn wedi bod yn destyn ymdrafodaeth faith a bywiog yn y gynhadledd a gynhal- iwyd yn ddiweddar yn yr Amwythig. Yn ostyngedig dymunaf awgrymu y rhaid i'r cynllun a gynygir, os yw i fod yn llwyddiannus, gydymffurfio âg amodau neillduol, y rhai yn fyr a grybwyllaf:— 1. Ehaid i'r symudiad fod yn drwyadl genedlaethol. Trwy fanteisio ar y dòn 0 frwdfrydedd a theimlad cenedlaethol y llwyddasom i sefydlu ein tri choleg. N.i ddylid dibrisio y cynorthwy arianol a roddwyd gan y naill Weinyddiaeth ar 01 y llall i'r colegau; ond pe na buasai am yr aberth gwladgarol a wnaed gán Gymry o bob dosbarth, ac at ba un y gallasom gyfeirio yn Nhy'r Cyffredin, ni fuasai y cynorthwyon hjnj erioed wedi eu rhoddi. Gẃ yw, fel y dywedwyd