Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CBNINEN OWYL DEWI. 57 PY ADGOFION AM JOHN ROW- LANDS (GIRALDUS). Gorchwyl anhawdd ydyw ysgrifenu llaẃer am ddyn oedd yn anadnabyddus hyd ddyddiau ei henaint. Ymddengys hefyd, nad oes i mi lawer o hanes John Rowlands yn argraffedig yn ein cyfnodolion Cymraeg, er ei fod wedi bod yn olygydd "Yr Haul " am flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1879 cynhaliwyd Eistedd- fod Genedlaethol Oeuheudir Cymru yn Nghaerdydd ; a chynhaliai y pwyllgor ei gyfarfodydd yn ngwesty y " Glove and Shears " ; o herwydd yr oedd gwr y ty yn llenor ac yn fab i lenor, sef Ap Gwilym Morganwg. Yr oeddwn i yn un o ysgrifen- yddion yr eisteddfod hono; a phan yn cyrchu i un o gyfarfodydd y pwyllgor ar brydnawn dydd Sadwrn yn ngwanwyn 1879, cyfarch- wyd fi yn sarug gan gawr o ddyn oedd yn eistedd yn ystafell fygu y gwesty. " Chwi yw ysgrifenydd yr eisteddfod sydd i'w chynal yma yr haf nesaf, onide ? " meddai. Dywedais innau fy mod yn un o'r ysgrifen- yddion. " Pa faint wyddoch chwi am lenyddiaeth Gymreig ? " meddai drachefn. " Ychydig iawn, yn wir," oedd yr ateb: a ffwrdd a mi i ystafell y pwyllgor. Holais rai o'r presenohon ynghylch y " dyn diarth" (chwedl Morganwg), a dywedodd Dewi Wyn o Essyllt mai John Rowlands (Giraldus) oedd. Dywedodd, hefyd, naill ai ei fod ar y pryd yn olygydd"Yr Haul," neu ynte ei fod wedi bod yn olygydd y cyhoeddiad hwnw. Dywedodd Dewi, yn mhellach, ei fod wedi ysgrifenu " Historical Notes of the Counties of Glamorgan, Carmarthen, and Cardigan," a'i fod newydd ddyfod yn ysgol- feistr i Rymni, Gwentllwg, ar ffin Gwent a Morganwg, ac o fewn haner miüdir i derfyn tref Caerdydd. Pan ddychwelais o'r pwyll- gor yr oedd Giraldus yn eistedd yn yr un man yn union. Yr oedd yn amlwg ei fod mewn hwyl ffraeo â phwy bynag fuasai yn ddigon ffol i wneyd hyny. Nid oeddwn i ond ugain mlwydd oed y pryd hwnw; ac o barch i'w henaint (o herwydd yr oedd yn benwyn) ymadewais âg ef mor ddidwrw fyth ag y medrwn. Yn ngauáf 1883—4 bûm yn glaf yn agos i angau; ond drwy drugaredd Duw cefais iachâd. Pan yn rhodiana yn ymyl Rymni, un prydnawn teg, cyn dychwelyd at fy masnach ar ol fy atìechyd, fe'm hys- byswyd, gan Sais o gyfaill oedd yn byw yn y pentref, fod yno " well-hiown Welsh writer " wedi ei barlysu. Yr oeddwn wedi annghofio pob peth am Giralduserbyn hyn, yn benaf o herwydd fy aflechyd trwm fy hunan ; ond er hyn teimlais mai fy nyled- swydd oedd talu ymweliad â'r llenor Cymreig trallodus, pwy bynag ydoedd. Ar gyfarwyddyd y Sais caredig gelwais yn nhy ysgol y bwrdd ; a phwy welwn yn eistedd yn y gadair freichiau ond Giraldus ! Nid cynt y'm gwelodd nag y torodd allan i wylo fel baban: Yr oeddwn i yn wan iawn ar ol fy nghystudd; a buan y cydymgym- ysgodd ein dagrau ar yr aelwyd lom, o herwydd nid oedd ronyn o dân yn y lle, er fod y tywydd yn bur oer. Deallais yn fuan fod yr hen wr a'i wraig ffyddlon yn holloi ddi-gyfeillion yn eu cyni ; a gwaeth na'r cyfan, yr oedd y cwpbwrdd mor llwm a'r aelwyd. Yn agos i'r ysgoldy safai y Rompney Castle Hotel, eiddo y diweddar Colonel Davis (cyn hyny y trafnidydd Americanaidd yn Nghaerdydd). Nid cynt yr esboniais amgylchiadau Giraldus i Mrs. Davis nag y rhoddodd orchymyn i'w morwyn i fyned a digon hyd weddill o angenrheidiau bywyd i dŷ'r ysgol: a mawr fu Uawenydd y ddau yng wyneb y rhaglun- iaeth a gymhellodd Mrs. Davis i weithredu mor Samaritanaidd. Ysgrifenais i'r "Western Mail," dranoeth, yn galw sylw Eglwyswyr Cymreig at gyflwr anghenus yr hen wron : ac mewn ychydig ddyddiau atebodd y diweddar Barchedig John Griffith, M.A., Rheithor Merthyr Tydfil, mewn ílythyr nodweddiadol o'r dyn da ac hynod hwnw, gan awgrymu cynal cyfarfod cyhoeddus yn Nghaerdydd i'r amcan o gynorthwyo John Rowiands a'i wralg yn eu hangenoctid. Ysgrifenodd y diweddar Hybarch Archddiacon John Griffith, B.D., i'r un perwyl. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuadd y Dref yn Nghaerdydd, o dan lywyddiaeth Rheithor Merthyr. Ffurfiwyd pwyllgor, a chasglwyd tua 800p. Prynwyd tŷ iddo ef a'i deulu yn Broadway, Caerdydd; ac yn benaf drwy ddiwydrwydd Mr., yn awr Syr, Marchant Williams, cafwyd blwydd-dal hen athraw iddo gan y Bwrdd Addysg, er nad oedd hawl ganddo i'r blwydd-dal, o herwydd yr oedd wedi bod am flynyddau heb ddilyn yr alwedigaeth o athraw, sef pan fu yn llyfrgeilydd i Syr Thomas Phillipps, Barwnig, ac yn casglu trysorau llenyddol Cymreig i'r casglwr llyfrau diail hwnnw. Ni wellhaodd ond ychydig o hyny hyd ddydd ei farwolaeth, ond ysgnfennai lawer, yn enwedig i'w hoff gyfnodolyn " Yr Haul," —fel yr ydwyf wedi sylwi wrth fyned yn frysiog drwy dudalenau y cyhoeddiad hwnw yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd. Bu farw ddydd Sadwrn, Gorphenaf 4ydd, 1891, yn ei dŷ ei hunan yn Broadway, Caerdydd, yn 58ain mlwydd oed ; a chladd- wyd ef ar yr wythfed dydd o'r mis, yn mynwent Rymni, Gwentllwg. Gwasan- aethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Morgan Morgan, ficer y plwyf ; a'r Parch. John Morgan, Ficer Nantyglo. Ni siarad- wyd yr un gair o Gymraeg, ac ni chanwyd llinell ychwaith yn Gymraeg, yn angladd yr hen Gymro iaitbgarol hwn. Yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd deuais o hyd i'r llyfrajj canlynol yn dwyn ei enw fel eu hawdwr :—" Glamorganshire Monu- ments : collected by John Rowlands, 1865." " Hístorical Notes of the Counties of Giamorgan, Carmarthen and Cardigan, and a list of the members of Parliament for South Wales, from Henry VIII. to Charles Ilnd. : by John Rowlands (Giraldus), Late Librarian of Thirlestaine House, Cheiten- ham.—Cardiff: Printed by Hugh Bird, Duke Street, 1866." (Cynwysa y llyfr hwn 135 o dudalenau). " Pedigree of the Ancient Family of Dolau Cothi, from the earliest period to the present time: by John Rowland, Welsh Secretary and Librarian to the late Sir Thomas Phillips, of Middle Hili, Bart., F.R.S., F.S.A. —Carmarthen: William Spurreü, 1877."