Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SOSIALIAETH» 21 Philistiaeth bellach o dan ei enw, er iddo fod mewn lle mor urddasol a phalas yr esgob, neu le mor gysegredig a phwlpud y gweinidog Ymneillduol,—er iddo eistedd yn holl fawredd ei swydd yn eisteddle y diacon yn allor capel y pengryniaid,—er iddo lechu y tu ol i, a thywallt allan ei fost a'i faldordd drwy, y " ni " fawr olygyddol,—adaebydd ef yn y crach-fardd, y crach-feirniad, a'r crach-bregethwr,—yn yr adolygydd ceiniog a'r rhigymydd dimai: a'r foment y gwel y werin ef, dywed ar unwaith, " Ah! dyna Philistyn !" Dodi enw ar hwnyna oedd ein hamcan ni: cyrhaeddasom y peth y'n dan- fonwyd allan o'i blegid. Ac ar ol y pwt ysgrif hon—myneger hyn yn Gath, ac adrodder ar hyd heoiydd Ascalon—gellir dywedyd am danom, Wele, bu, ac nid ydyw. D. Stanlby Jones, SOSIALIABTH. Y mab yn demtasiwn, hwyrach, i'r dyn o duedd lenyddol ymgadw rhag anturio i faes cynhyrfus gwleidyddiaeth ; a phan anturia felly, bron nad ystyrir ei waith yn rhyfyg ac yn ymyrraeth ynfyd gan y rhai sy'n chware'u rhan yn gyson ac amlwg ar y maes hwnnw. Ónd cofìaf yn dda ddarllen, flynyddoedd yn ol, amddiffyniad gwych John Morley rhag edliwiadau o'r fath, pryd y profai, yn ei ffordd hamddenol a di-wrthdro, nad llai, ond yn bytrach mwy, cymwys yw dyn i ffurfio barn wleidyddol, o fod yn gydnabyddus â llen- yddiaeth. Y mae adegau pryd y teimla'r dinesydd distaw, os yw yn gwylio symudiadau cyhoeddus, ac os yw'n meddu rhywfaint o allu i draethu ei farn ar lafar neu ar len, rwymau i dori ar ei ddistawrwydd. Er gwybod nad yw ei lais ond megis llef egwan yng nghrochfioedd y dymestl, nis gall ymatal. Unwaith o'r blaen yr anturiais gyfarch darllenwyr Y Geninen ar bwnc gwleidyddol, sef ar y Rhyfel yn Neheubárth Affrica. (Y Geninen, Ebrill, 1900.) Ni fu'n edifar gennyf am yr ysgrif honno; a hyderaf na fydd am yr y8grif hon chwaith, er gwybod yn dda fy mod yn mynd yn erbyn llanw sy'n cario lliaws o'm cyd-genedl gydag ef. Nid hawdd gan ein hen iaith roi ei hun yn hwylus i wasanaeth estron- beth. Pan fabwysiedir estron, gan amlaf bydd raid i ni ei gymeryd a'i enw estronol arno. Ceisiwyd arfer y gair Cymdeithasiaeth am y peth sydd gennyf dan sylw, ond ni lynodd yr enw ; a gwelaf mai Sosialiaeth yw yr enw a arferir amlaf gan y newyddiaduron yn awr. Ac nid gwaeth gennyf fi i'r enw hwn barhau, i arwyddo mai estronbeth yw. Nid bywyd Cymru dawel, ac nid bywyd tawel, naturiol, gwlad,—na thref gymedrol faint,—a gynhyrchodd Sosialiaeth, ond yn hytrach bywyd y dinasoedd mawrion. Megir ef, fel y megir pethau afiach eraill, lle y mae aneirif nifer o fodau dynol yn byw bywyd annaturiol; lle y mae tlodi, fel cyfoeth, yn ymdrybaeddu mewn pethau an- hygar; lle nad oes nwyfre ond caddug afiach. Yng ngweithfeydd y trefi, yn swn dibaid peiriannau, lle mae'r gwaith yn unffurf, di-nodwedd, a di-foddhâd, yno y mae bywyd yn fynych yn druenus a gwaith yn bennyd. Fe ga'r llafurwr gwledig ar y tir weld ffrwyth ei lafur yn y cynhauaf, a cha weithio beunydd ynghanol purdeb Natur. Pe wel crefftwr y pentref ei waith yn tyfu ac yn dod yn rhywbeth dan ei ddwylaw,— " Something attempted, something done,"— ond yn y ffactri fawr a'r weithfa beiriannol, nid oes ond pawb ei ddarn o waith, a'i fil-fil o'r un darn, nad yw byth yn dod yn gyfanwaith iddo ef. Nid oes foddhâd mewn gwaith felly. Ac megis y gwaith, felly'r cartref yn y trefi mawr: rhanbarthau tai'r gweithwyr, hacred, annifyred ydynt! Meithder o heolydd pygddu, unffurf, sy'n dorcalonnus i wladwr i edrych arnynt; a bywyd y bobl ynddynt mor ddi-obaith, mor ddi-nôd a di-fwynhâd. Pa ryfedd fod y bobl yn cyrchu am ryw fath o bleser i'r tafarnau a'r music halls isel ? Pa ryfedd os ant am obaith i'r clybiau Sosialaidd, lle y traethir mor hylithr am gyfoeth y capitalist a'r tir-feddiannwr, yr hyn oll sydd yn eu cyraedd hwy i'w feddiannu ond pleidio Sosialaeth ? Dedwydd yw Cymru nad oes ynddi ond ychydig iawn o'r tlodi a'r trueni trefol hwn. Os yw gwaith y glowyr yn annifyr a pheryglus, nid yw eu trefl mor fawr nes eu carcharu ynddynt Y mae'r meusydd a'r Ilwyni yn ymyl,