Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENTNEN GWYL DEWI. 23 EOS BEADWEN: Y BAEDD A'E CERDDOE. Tra'n eistedd wrth y tân ar noson ias- oer yn Chwefror aetnum i feddwl arn a fu, ac i holi adgof pa le a pha bryd y daethum i wybod am fodolaeth ' Eos Jíradwen. Cefais fy hun mewn cyng- erdd yn Ngwaun y Bala, a'r côr—y cör mwyaf ardderchog ar y ddaear, yn ol fy marn gydwybodoi ar y pryd—yn rhoddi datganiad o'r " retreat chorus " aUan o gantawd " Òwain Glyndwr." Yr oedd y rniwsig a'r geiriau—oherwydd yr oedd datganwyr y dyddiau gynt yn credu fod eisiau dysgu y geiriau—yn llawn o ynni a swyu : — Mae'r corsydd yn lleidiog, y nef yn gymylog, A mnnau'n newynog yn aros y nos ; Filwyr y Brenhin! ffown o'r gorliewin, 0 wiad y clewin, dros gwmwd a rhos. Ffown o derfynau brenhm y bryniau, Gwlad y taranau, y gwynt, a'r gwiaw. Bu'r gân a'r melodi yn fy nilyn am ddyddiau; a dyna'r pryd y daethum i wybod gyntaf am Eos Bradwen. Aeth bíynyddau heibio : yr oeddwn yn aros enyd yn ngogledd Lloegr—yn Dal- ton-in-Furness; a digwyddai fod yno gyngerdd yn y Neuadd Gyhoeddus. " Beth fyddai imi fyn'd i wrando y Saeson yn canu?" meddwn. Wedi cael sedd a phrynu rhaglen tynwyd fy sylw at gân yn dwyn yr enw rhyfedd— —" Sioinging a Pochet Handherchief." Penawd òd i gân; ac felly y tybiai y Ilywydd, feddyliwn. " Y mae'r gair swinging" meddai (ond ei fod yn dweyd yn Saesneg) " yn eithaf iawn am ordd neu forthwyl mawr; ond dyma y tro cyntaf i mi ei weled yn nglŷn â chadach poced !" Aeth y datganwr i'r llwyfan— un o fechgyn cerddgar Dyffryn Edeyrn- ion, a dywedodd mai cân Gymraeg ydoedd — " Chwyfio'r Cadach Gwyn." Canodd nes gwefreiddio'r Saeson, er nad oeddynt yn deall yr un gair: — Ni wyddai neb, os down yn ol I'r bwth ar fin y llyn, Oedd yno rywun wrth y drws I I chwyfio'r cadach gwyn. Dyna'r ail wa.ith imi ddod i gyffyrddiad âg Eos Bradwen. Ond yr olwg gyntaf a gefais arno ef ei hun ydoedd mewn cyngerdd yn yr hen Ysgol Frytanaidd—o fendigaid gof—yn Nghorwen. Yr oedd golwg urddasol arno ; a chyflawnodd ei waith yn feistr- olgar. Yn mysg pethau eraill, rhodd- odd ddatganiad tyner ac effeithiol o'r " Golomen Wen." Ychydig a feddyl- iwn, tra yn gwrando arno yn y cyngerdd hwnnw, y buaswn yn dod i gyffyrddiad mor agos' âg ef yn yr amser oedd i ddod, ac jr gwelid fi, ar noson auafol yn Chwef- ror, 1901, yn ceisio plethu teyrnged fechan i'w goffadwriaeth, i'w dodi ar fynwes Y 0EN1NEN- On<i fel yna y bu. Daethom iìl dau o finion y Ddyfrdwy a'r Glwyd i finion y Fenai: ac yn Nghaernarfon buom yn gym'dogion am nifer o fiynyddau. Gallaswn fynd rhag- of i draethu rhywbeth am dano yn yi ysbaid hwn; ond disgwylia'r darlien- ydd am hanes rhanau blaenorol ei oes, iiânes ei ymdaith a'i lafur fel bardd a cherddor, hanes ei ganeuon a'i odlau pêr. Meddyliodd Eos Bradwen, ar un adeg, y buasai yn burion peth iddo ysgrifennu inath o hunan-gofiant. Eisteddodd i lawr, rywbryd, gyda'r gorchwyl; ac ys- grifennodd—un ddalen ! Y mae honno ger fy mron yn awr, mewn ysgrif-lyfr o'i eiddo sydd, bellach, wedi melynu gan oedran. Dyma ei chynwys, yn ei eiriau ef ei hun: — Ganwyd fi yn Maesybwlch, tyddyn bychan ar lechwedd un o fynyddau Tai- yìlyn (Swydd Meirion), ar yr lòeg o Hydref, 1831. Yn fuan wedi hynny symudodd fy rhieni i bentref. bychan d'estlus, y pryd hwnnw, o'r enw Tregor- ŵyr, neu Maesgorŵyr. Byddai fy nhad ar y pryd yn gweithio yn chwarel Aber- llyfeni, ac' yn cerdded dros y mynydd adref bob nos. Enw fy nhad oedd Ŵil- liam Jones, ac enw fy manr, EIizabeth Jones. Un o'r pethau cyntaf a allaf goüo ydyw hen furiau ty Maesgorŵyr, a'r hen aelwyd, y rhai u dd byth yn fwy cysegredig yn fy nghof na phaias y bren- hin, er eu bod er's amser maith yn gor- wedd yn adfeilion. Yr wyf yn cofio fod, ar y pared, y gerdd honno,—" 0 that will be joyful," a ll'un dynion; a phan aeth fy mam allan o'r ty ar fin nos ey- merais innau y ganwyll i fynd i uen y gadair i weld cerdd "Joyful," fel ei galwn. Ac wrth graffu arní, a dal y ganwyll yn rhy agos iddi, cymerodd y gerdoi dân. Allan a minnau i gyfarfod mam; a dywedais wrthi na wnai y dyn- ion bach oedd ar y rnur ddim dweyd wrthi fy mod wedi llosgi cerdd " Joyful" Yr oedd fy mam wedi cael y fath hwyl gyda fy niniweidrwydd fel na chefais gerydd ganddi ar y pryd. Yr wyf yn cofio tipyn am y dull y byddem yn chwareu yn yr amser boreu hwnnw; a meddyliwn, pe bai bosibl i mi fynd yn ol iddo, na fyddai ar y ddaear ddyn dedwyddach na mi. Yr wyf yn cofio fel y bycldai fy nhad 3'ii fy nghymeryd ger- fydd ei law ar foreu Sul i fynd a mi i'r Ýsgol Sabothol a gynhelid yn Cwm Maes-y-bwlet, yn nhyddyn Evan Wii- liams. Yr oedd fy nain a fy nhaid yn byw y pryd hwnnw yn Maes-y-bwlet; a mawr yr hyfrydwch a deimlwn wrth gael mynd i roi tro gyda fy nhaid i lawr y meusydd. Ac y mae y drychfeddwl o bysgotta ar ddiwrnod gwlawog yn aros byth ar fy meddwl fel y dych'mygais am dano y tro cyntaf wrth weled fy nhad yn dod adref o bysgotta. Yr wyf yn meddwd am dano gyda rhyw deimlad e^'nhyrfus, nefolaidd, a llawn hyfryd- wch. Rhyfedd ydyw yr argraff boreuol ai feddwl plentyn! Ỳr wyf yn teimlo yr argraff yna ar fy meddwl eto, mor newydd ag erioed, wrth ei adgoffa; ao y mae yn debyg y'r erys tra y byddaf