Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Cplr&ffrafem CntetiIaet&oU Rhif. 2.] EBRILL, 1901. [Cyf. XIX. LLYFE COFNODION CAEENAEFON* [BEGISTBUM VULGARITER NUNCUPATUM "THE BECOBD OF CAEBNARYOISr" E CODICE MST° HABLEIANO 696 MDCCXXXVIII.] Ni raid i'r cyfarwydd yn hynafiaethau Cymru wrth unrhyw eglurhad na goleuni all yr ysgrifenydd roddi ar natur ac amcan y gyfrol hon : ond y mae ganddo seiliau i gredu fod cylch eang o ddarllenwyr Cymreig heb wybod mwy am ei chynwys na'r hyn a awgrymir yn y teitl am y berthynas sydd rhyngddi â Chaernarfon. Mae yn íîaith iddo gyfarfod yn achlysurol â pher- sonau a gymerent yn gäniataol nad yw y llyfr amgen na hanes tref Caernar- fon a'i helyntion yn ystod y canrifoedd y bu o dan warchaead a gorthrwm y gaerfa Seisnig. Fe geir, yn bur gynil, ryw gymaint o hyny yn ei dudalenau; ond nid priodol fyddai dywedyd mai hyny yw. Casgíiad syml o gofnodau ydyw a wnaed yn benaf yn y bedwaredd-ganrif-ar-ddeg a'r bymthegfed ganrif gyda golwg ar amgylchiao.au a meddianau a ddalient berthynas â Mon, Arfon, a Meirionydd, gan swyddogion o dan nawdd ac awdurdod y Goron. Yn y fiwyddyn 1838 archwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines Victoria fod iddynt gael eu hargraffii o dan arolygiaeth dirprwywyr cofnodion cyhoeddus y deyrnas. Y golygydd ydoedd Syr Henry Ellis. Bernid y buasai eu cynwys o werth hanesyddol nid bychan i'r sawl a gymerant ddyddordeb yn hanes ein gwlad : ac y mae amser a phrofiad wedi cadarnhau cywirdeb y farn hono. Mae yn wìt y gelwir ef yn " Gofnodion Caemarfon;" ond nid oedd a wnelo â'r dref hon fwy na'i bod ar y pryd yn brif dref Gogledd Cymru, a bod llawer o'r hyn a groniclwyd ynddo wedi cymeryd lle y tufewn i'w muriau. Yr oedd y Castell a lleoliad y dref yn fanteisiol i hyny—nifer o wŷr arfog wrth law, cadben â chwnstabl yn ben ar y cwbl. Dywed traddodiad mai y lle a elwir yn awr yn Borth-yr-aur ydoedd y Trysorlys, lle y derbynid y trethi ac ar- drethoedd i gynal urddas a mawredd y Llywodraeth. Yma, neu yn y Castell, y preswyliai (ran fawr o'r flwyddyn) ystafellydd (chamberlain) y brenin dros Ogledd Cymru. Nid ll?i oedd gofal ei Fawrhydi, mae yn ymddangos, am y porthladd nag am y Castell, am y rheswm, mae yn debyg, fod y cyllid y pryd hwn a ddygid i mewn drwyddo yn gosod gwerth arno. Dyna ellir gasglu, yn ddiau, oddiwrth yr archiad dilynol anfonwyd allan yn y fiwyddyn gyntaf o deyrnasiad Iorwerth III. (1327) a,t yr ystafellydd i adgyweirio muriau y porthladd: — " Y Brenin at Robert Power ein hystafçllydd yn Nghaernarfom. Yn gymaint a bod muriau porthladd Caernarfon yn bur adfeiiiedig, a'n bod yn barnu mai peryglus eu gadael fel y maenit, erchir i chwi eu hail adeiladu a'u cadw i fyny, am y rhaid i'r draul, o anghenrhaid, ddyfod allan o'r cyllid."* Nid mater bychan i benadur balch ac uchelgeisiol, yn nghanol ymgyrchoedd y dyddiau hyny, oedd gwasgu allan o'i ddeiliaid newydd hyny o nerth materol ag oedd ddichonadwy i gynal i fyny rwysg ac anrhydeäd ei orsedd. Gwelwn nad oedd derbyniadau Iorwerth III. yn 1343 oddiwrth holl fedd- ianau y Goron yn Ngogledd Cymru yn y fiwyddyn hono ond 304p. 7s. 6c. Ymhen ychydig flynyddau ar ol hyn yr ydym yn cael fod yr un Iorwerth yn fawr ei bryder ar fod " arian y brenin "—sef ardrethoedd tir yr hen dywysogion—yn cael eu bwrw yn rheolaidd i'r drysorfa. Diau fod cryn afreoleidd-dra gyda hyn yn ei amser ef fel yn amser ei dad, gan mor anhawdd ydoedd i'r Cymry dd'ygymod â'r oruchwyliaeth newydd, a dwyn iau orth- rymus y Saeson ar eu gwarau. Achwynid wrth ei Fawrhydi fod cyfran o'r ardrethoedd a ddisgynai yn rhesymol 'iddo ef fel tywysog (nid yn y Uinach, ond trwy gydsyniad y genedl pan y cyflwynwyd ei dad fel " eich dyn " i'r bobl yn y Castell) yn cael eu cam-atal neu eu camddefnyddio. Gofidiai hefyd * Carnarvon Adverti$er, 1822.