Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

64 Y GENINEN EISTEDDFODOL. YR ENGLYN. (Eisteddfod Dalaethol Powys, Cemmes, 1907). O'r Englyn pedair-onglog—tyr synwyr Trwy seiniau cymhlethog : Byr a dîddan, fel cân cog, Yw'r bychan fesur bachog. Y GROGLITH. (Gurccsam, Guener y Groglith, 1910). O'r groesbren dygwyd bendith— " Da 'R ol dunos v felldith : Wener " Ar lwybrau'r saint, braint heb rith, A gwawr eglur, yw'r Groglith. YR AWYR-BEIRIANT. (Brymbo, Mehefin, 1910). Llwybrydd nen, a'r chwim wennol,—a Awyr-beiriant gwibiol : [heria'r Awyr a'i gyrr yn ei gôl, A'r awyr yw ei heol. LLIFON. (Cyfarchiad byrfvfyr i Arweinydd Eisteddiod Corwen, 1909).—Buddugol). Un bywiog o feib awen—yw Lliíon, O ddawn llafar, trylen,— Llyw anhebgor Gwyl Corwen, Cry' o bwyll, ac hir o ben. Abon. Y COLEGDY NEWYDD. (Prij Ysgol Caerdydd, 1910). Y NAWDD hwn i wyddouydd — a welaf Yma'n " goleg newydd ; " A thriniaeth i athronydd Y'ngwawr ei daith Y'Nghaerdydd. Caerdydd. D. J. Davies (Myfyriwr). YR ABWYDYN. (Y Gelli, Lìawhaden, 1910). Trychfilyn bach aml achau,—dyma lesg Dlawd ymlusgiad borau,— I aderyn nod orau Dyna'i bryf, abwydyn brau. Rosebush. Glan Syfnan. Y GOMED. (Salem, Meidrym, 1910). Brysgenad dros " dad y dydd,"—deg Digymhar redegydd,— [Gomed,— Chwarëus wawl,—a'i chwrs sydd Faes siriol i nwyf serydd. Cwmfelin. Levi Edwards. YR HAUWR. (Ford, Penfro, 1910). I borthiant byd aberthwr-—yw'r Hauwr, A hoew lafurwr ; A darlun llawn gawn yn y gwr A'i aur hadau o'r Gwaredwr. Maesteg. H. Solya Thomas. Y TEPOT. (Tanybryn, Llanddoget) Gwas bach dan " gosy " bychan—ar y bwrdd,— . Mawr ei barch yn mhobman,— Eilun teg o fìaen y tân, — Banc hapus uwchben cwpan. Llanrwst. R. Evans. YR HEDDGEIDWAD. (Aberỳennar, 1908). Dyrwygwr cestyll drygau,—ýr arswyd Drwy wersyll troseddau, Yw'r mad Heddgeidwad, wna gau Ar ddyhirod ddur ddorau ! GWG. (Abcrpcnnar, 1909). Cwmwl o gread camwedd—ydyw Gwg, Ar deg ael yn gorwedd ; Nod anhygar wisga'r wedd Adeg llanw DigUonedd ! Y PASG. (Y Fochriw, 1908). Hof.n cenedl ar derfyn cyni—yr Aifft, Fu yr wyl uchelfri. Ceidwad o'i fedd yn codi Yw pwysig nod ein Pasg ni. Y GWEDDIWR. (Cwmaman, 1907). Ar ei ddeulin, gwir addolwr—ei Dad, Yw'r didwyll Weddîwr. Rhwydd i'w law ca'r eiddil wr Agoriadau'i Greawdwr ! MR. WINSTON CHURCHILL. (Cwmaman, 1910). Churchill yw'n pen " Ysgrifenydd "— Fydenwog areithydd ; [dawnus, Gwr i Dduw gysegra'i ddydd, Dan glod enwog wladweinydd ! Cwmaman. Tel. Y RHOSYN. (Cemmaes, Maldwyn, 1910). Sawrus, ar wgus frigyn ;—dihalog, Dan nôd haul a gwlithyn ; Tlws hyfawl; gan y gwawl gwyn A drwsiwyd, yw y Rhosyn. Ap Meurig. YR ARWERTHWR. (Glanrhyd, Penfro, 1910). lTx ffraeth, llawn nwyf ar lwyfan—i'n I brynu mor ddiddan, [hannog Yw'r Arwerthwr,—gwr â'i gân Wna i'r nwyddau droi'n arian. Eglwyswrw. Harry Lewis. Y DYFRGI. (Pontrobert, Mehefin, 1910). Ci llyfndew, llwyd ei flewyn,— am abwyd Ymwibia'n nos-grwydryn,— Heliwr llwyr gudd weíy'r llyn,— Gafaelog, ffyrnig filyn. Y GRIBIN. (Rhiwlas, Mehefin, 1910) Offer rhtidiol a chyfîrcdin,—hwylus Er hel gwair, yw'r Gribin ; A'i harfer a wna'r werin, Gydag aidd( ar hafaidd hin. Meifod. Ieuan Mai.