Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

62 Y GENINEN EISTEDDFODOL. A dyry wersi y bu oesau lawer Yn eu darparu'n ddiwyd ar fy nghyfer, Gofynaf iddo:—Beth am Anfarwoideb ? Petrusa. Tora'i eiriau. Ctisia'm hateb. Ond nid yw hyny ond tywyllu cynghor Ag ymadroddion amwys—dim yn rhagor. Rhy uchel yw'r wybodaeth—rhy ysbrydol,— \i fedr ef ei chyrhaedd yn dragwyddol Efengvl rasol, yn dy santaidd law Arweinia f'enaid, am fynydyn, draw Hyd at derfynfan llinell bywyd brau, Lle gwelir olaf ddorau'r byd yn cau : A gwasgar ymaith, âg anadliad ru, Y niwloedd sy'n gorchuddio angau du ; Fel byddo unwaith i lygredig ddyn Gael cipdrem arno yn ei liw ei hun, Ac ar yr erch ddifodiant hwnw wnai Anffyddiaeth hell brophwydo i bob rhai: Neu'n hytrach ar yr arall wlad a'r byd Y bûm am danynt yn ymofyn cy'd. Fel mae'r wawrddydd, pan yn tori Yn y dwyrain ruddain draw, Yn arafaidd symud lleni Gwyll y nos â'i thyner law ; Ac yn treiglo'i gwawl-belydrau Yn ddigynwrf, dòn ar dòn ; Nes mae'r byd, â'i aml wrthddrychau, Oll yn amlw g ger ein bron ; Felly mae y wawrddydd nefol— Hyfryd wawl Efengyl hedd, Yn gwasgaru, 'n raddol, raddol, Gaddug angau oer a'r bedd ; Nes mae bryniau Anfarwoldeb A llanerchau'r bythol fyd Yn ymddangos mewn tlysineb A gogoniant claer i gyd. Pa beth yw hwn ! Ai dyma'r Angau erchyll Y bûm, yn fy nhywyllwch gynt, yn sefyll I dremio'n brudd, drwy ddrych dychymyg, arno, A'm natur wan gan ddychryn yn llesmeirio? Ni welaf ar ei wyneb ddig yn seddu, Na mellten yn ei lygad yn ymlechu Na, mae'n ymddangos, megis cenad nefol, Yn dy oleuni di, Efengyl rasol. Ni raid im' ofni. Nid yw marw mwyach Ond newid byd am fyd sydd fil rhagorach. Os rhoir fy nghorph dan leni'r bedd i huno, Mewn nerth y cyfyd yn y man o hono ; Ac os diosgir fy marwoldeb ymaith, Fy ngwisgo gaf âg anfarwoldeb eilwaith. Blaguro byddaf yn fy mwyn ieuenctyd, Fel llawryf gwyrdd, o dan awelon bywyd ; Pan byddo ser y nen, fel crinddail gauaf, Yn cael eu lluchio gan y 'storm ddiweddaf; Byw lygad haul yn ddall gan henaint gorflwng, A natur dan ei llesgedd yn ymollwng | Anfarwol! mor ofnadwy ydyw'r syniad ! Ond morfoddhaol hefyd yw i deimlad Fy enaid bywiog ! Gyrfa heb un terfyn ! Boreuddydd dysglaer, heb brydnawn i'w ddilyn ! Cyfnodau fyrddiwn wedi 'hedeg heibio, A'r oes yn dal yn hollol gyfan eto ! Caf yno fvw. Nid oesi yn ddiddiwedd, A'm henaid yn ymrwyfo yn ei lygredd ; Ond didwyll fyw, yn ol yr ystyr hyfryd A rydd perseiniol iaith y nef i fywyd ; Byw heb euogrwydd—teyrn fy holl elynion — I wanu'm mynwes a gorlethu'm calon ; Heb un anianol nwyd i ben tramgwydd I'm troed ar euraidd lwybrau fy nyledswydd ; Heb son am bechod hyll na gweithred anfad, O fewn y tawel dir, i glwyfo'm teimlad. Pob blin euogrwydd wedi cael ei gladdu Yn mor diwaelod dwyfol haeddiant Iesu ; Pob cyneddf aflan wedi'i phuro'n hollol Gan Ysbryd Duw, drwy beiriau'r byd presenol ; A phawb o'm hamgylch, megis heuliau llachar, Yn ymddysgleirio mewn santeiddrwydd hygar ; Dan nawdd yr Orsedd wen na feiddiodd pechod Erioed i olwg ei gogoniant ddyfod; Yn byw i ateb holl ddybenion bywyd, A byw i wir fwynhau gwir fywyd hefyd. Ni chyfyd tymhestl, yn y wybren glir, I rolio uwcli fy mhen ei chroch daranau ; Ni chwytha awel o begynol dir, I ddeifio fy mlodeuog ddysgwyliadau ; Ni ddaw i mewn ormes» r egr ci wedd, I fathru'm hawliau dan ei wadnau budron ; Na gelyn dig i dori ar fy hedd, A phe.ri braw i'm gorfo'eddus galon. Holl annymuuol bethau ein daearfyd Ynt \n ddyeitluiaid i anfarwol fywyd. Caf dawel orphwys, gan ymroi i weithio,— A gweithio'n hwy us, gan ddi-baid orphwyso,— Gorphwyso'n da^ el oddiwrth helbulon A chur a llesgedd sy'n fy mlino'rawr'on,— Ymroi i weithio'r gwaith a dorwyd allan Ar gyfer fy niderfyn ddiwrnod dyddan. Pob nerth a gallu fedd fy enaid dedwydd, Wrth weithio, 'n mynd o hyd, o hyd, ar gynydd ; A phob sychedig duedd sy'n fy nghalon Yn troi yn bur fwynhad uwchben ei digon. Caf wylaidd olrhain gallu'r Ior a'i Dduwdod Yn ymddadblygu drwy Ei weithiau hynod,— Dwfndreiddio i gyfringelloedd, fel y treiddia Ymsuddwr i eigionau'r moroedd dyfna', A dwyn i fyny ryfedd wirioneddau Ydynt guddiedig i ddaearol oesau,— Myfyrio ar Ragluniaeth—ar ei dyrus Oruchwyliaetlrau hi at fyd truenus, A'm llygaid heb un llen na nudd i beri I ddim ymddangos mwy'n anghyson imi,— Myn'd ambell dro, yn nghwmni angel gwynwawr, Ar hynt, i bellaf gẁr y Cread ecfawr,— Myn'd heibio i fydoedd, fel yr 'heda mellten Heibio i fân glogwyni y ddaearen, A gwel'd, mewn mynyd fer, ddi-rif gysawdiau A blanodd Ior ar fron yr eangderau,— Cydsyrthio'n dau i roddi moliant iddo Mev\n nefol, berlewygol hwyl fan hono,— Dychwelyd eilwaith at yr hoenus dyrfa A ganant am anfeidrol Iawn Calfaria,— Ymuno gyda hwynt i wir ddyrchafu Rhyglyddawl glod fy mwyn Waredwr lesu,— A synu a chlodfori yn ddiddarfod Am brynedigaeth dyn—pen campwaith Duwdod. Caf fyw yn ogoneddus. Nid hiraethu Yn ddidawl am ogoniant heb ei feddu ; A thybio'i fod yn mhobman lle nad ydyw, Fel gwna anmhwyllog fawrion daear heddyw ; Gan dywallt rhuddwaed, Uuosogi enwau, A chasglu rhydlyd gyfoeth yn bentyrau ; Ond etifeddu'r mwyn ogoniant hwnw Sydd yn y Nef, gan Dduw i'w saint yn nghadw;— Y pur ogoniant dardd o wenau bywiol Yr Ion ar enaid, fu mor anhaeddianol; Y gwir ogoniant ddeillia i bryfyn egwan O'i berffaith ogoneddu Ef Ei Hunan ;— Y mawr ogoniant fydd yn bwys annrhaethol, Ond fel yr awyr yn adnerthiaDt bythol; Y " tra rhagorol " ddwyf ogoniant rodda Fwynhad i'm Ner pan arnaf yr edrycha. Pa beth wyf heddy w, mewn daearol fyd, Er maint fy ymffrost ofer lawer pryd, I'm cyferbynu â'r hyn fyddaf draw Ar diroedd Anfarwoldeb ddydd a ddaw ? Rhyw lwfr lindysyn distadl yn ymgripio Ar hyd y llwch—heb ddod yn barod eto I ddechreu chwareu ei adenydd aur, O dan ddigwmwl wenau'r huan claer ; Neu un anelwig heb erioed agoryd Ei lygaid i fwynhau sylweddol fywyd. Pa beth yw ardderchocaf bethau'r Uawr I'w dal yn ymyl eiddo'r Wynfa fawr; Trysorau'r byd yn ymyl y di-lyth Drysorau fyddant yn drysorau byth ; Anrhydedd rhydlyd—rhy anhaedd o'i enw— Yn ymyl yr anrhydedd tanbaid hwnw Na all ddiflanu ; iechyd halog dir Yn ymyl iechyd y trigfanau pur;